Cynnig treth cyngor

Cymorth

Fydd pobl sy'n hawlio budd-dal treth cyngor ddim yn ei golli wedi i aelodau'r Cynulliad gymeradwyo newidiadau i reoliadau ar 22 Ionawr 2013.

Cyhoeddodd llywodraeth Cymru gyllid o £22m ar gyfer y budd-dal yr wythnos ddiwethaf wedi dweud yn wreiddiol nad oedd yn bosibl iddyn nhw ddod o hyd i'r arian.

Dywedodd y gwrthbleidiau eu bod yn croesawu'r "tro pedol" ond roedd beirniadaeth helaeth o'r ffordd i'r gweinidog ymdrin â'r newidiadau.

Yn ôl Llafur, maen nhw'n "sefyll i fyny" dros bobl.

Mae'r cyllid ychwanegol yn cau bwlch grewyd wedi i lywodraeth y Deyrnas Unedig dorri'r gyllideb o 10%.

Heb yr arian ychwanegol, byddai pobl sy'n derbyn budd-dal ar gyfartaledd ar eu colled o £67 yr wythnos yn y flwyddyn ariannol sy'n dod.

Wrth gyfrannu i'r ddadl, dywedodd yr AC Ceidwadol Janet Finch-Saunders bod y tro pedol yn ryddhad i'r 330,000 o deuluoedd yng Nghymru sy'n derbyn budd-dal treth cyngor.

"Ond mae'n gywilyddus iddi gymeryd cymaint o amser i'r gweinidog a'i adran i wneud hyn," meddai.

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas bod gan y llywodraeth "wersi mawr i'w dysgu o'r annibendod yma ar sut i ddeddfu a sut i fantoli cyllideb".

Yn ôl y Democrat Rhyddfrydol Peter Black mae'r "sefyllfa shambolig" wedi gadael cynghorau gyda dim ond naw diwrnod i gyflwyno'r rheoliadau cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2013.

Gwrthododd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant unrhyw gyhuddiad o dro pedol.

"Dyma beth yw llywodraeth Carwyn Jones yn sefyll i fyny dros bobl Cymru," meddai.

Cafodd y rheoliadau eu cymeradwyo'n unfrydol gan yr aelodau.

Wedi'r drafodaeth, cymeradwyodd yr aelodau orchymyn sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu costau pysgotwyr Cymru am gydymffurfio â rhai rheolau Ewropeaidd.

Nid yw'r fideo heb gyfieithiad ar gael oherwydd nam technegol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.