Is-bwyllgor ysmygu

Help

Mae'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru yn dweud y gallai'r gwaharddiad ar ysmygu olygu bod cynyrchiadau mawr yn dewis gweithio yn Lloegr yn hytrach na Chymru, gan achosi colled o filiynau o bunnau i'r diwydiant yng Nghymru.

Ond yn ôl cadeirydd y pwyllgor iechyd mae galwad y cwmnïau i ganiatáu ysmygu ar setiau ffilm a theledu fel sy'n digwydd yn Lloegr yn "sylfaenol ac yn foesol wrthun".

Roedd aelodau'r Is-bwyllgor ar Reoliadau Mangreoedd Di-fwg yn clywed tystiolaeth o blaid ac yn erbyn caniatáu ysmygu wrth ffilmio ar 22 Ionawr 2013.

Mae grwpiau gwrth ysmygu yn gryf yn erbyn y syniad.

Dywedon nhw wrth y pwyllgor bod y ddeddfwriaeth yn gwarchod gweithwyr ac na ddylid ei newid.

Yn ôl Felicity Waters o ASH mai "mater o gyfleustra i'r diwydiant teledu" fyddai codi'r gwaharddiad.

"Ddylai deddfwriaeth ddim cael ei newid am resymau masnachol.

"Pa ddiwydiant ddaw nesa?

"Pa ddiwydiant sy'n mynd i ddod gerbron i herio'r ddeddfwriaeth yma am eithriad i'w diwydiant nhw?

"Beth ddywedwn ni wrthyn nhw os ydyn ni eisoes wedi caniatáu un?"

Cafodd ei chefnogi'n llwyr gan Sefydliad y Galon a Cancer Research UK ddywedodd nad oedd unrhyw lefel ddiogel o fwg.

Ond mynnodd Clare Hudson ar ran BBC Cymru bod y diwydiant creadigol yng Nghymru ar ei golled oherwydd y gwaharddiad.

"Yr hyn sy'n achos pryder i ni yw os ydyn ni am i unrhyw beth fod yn bosibl o ran cynyrchiadau yng Nghymru, rhaid i ni gael ein gweld ac hefyd fod yn fan lle mae pob peth yn bosibl," meddai.

"Gall cwmni annibynnol fynd i unrhyw le i wneud sioe.

"Gyda gostyngiadau treth ar fin cael eu cyflwyno fe fydd mwy o gwmnïau Americanaidd fydd yn gwneud penderfyniadau am resymau ariannol heb feddwl ddwy waith.

"Gallem ni fod mewn sefyllfa lle bydd ein darpariaeth drama ni yng Nghymru yn cael ei niweidio gan bobl yn gwneud penderfyniadau ar sail 'o, dydyn nhw ddim yn gadael i ni ysmygu, mae'n ran hanfodol o'r ddrama yma, gadewch i ni ei wneud e'n rhywle arall."

Ychwanegodd y gallai economi cynhyrchu drama yng Nghymru fod ar golled o rhwng £500,000 a £10-12m.

Dywedodd cymdeithas teledwyr annibynnol PACT yn eu tystiolaeth ysgrifenedig bod angen masnachol cryf i gyflwyno'r eithriad, gan ddweud ei fod yn "rhwystr economaidd" i gynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru.

Anghytunodd y ddwy ochr ar y gost o ddefnyddio delweddau wedi eu creu gan gyfrifiaduron (CGI) wrth ôl-gynhyrchu sioeau i ddangos actorion yn ysmygu heb eu gorfodi i wneud hynny ar y set.

Yn ôl PACT gallai deg eiliad o olygfa wedi ei saethu'n agos at ysmygwr wrth ddefnyddio CGI ddod ar gost o hyd at £30,000.

Yn ôl Ms Waters byddai'r gost lawer yn is.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor iechyd, Mark Drakeford nad oedd wedi ei berswadio gan y ddadl y dylai Cymru gael eithriad i'r ddeddf am fod un yn Lloegr.

"Mae'ch dadl o gymharu Cymru â Bryste er enghraifft yn sylfaenol foesol wrthun," meddai.

"Rydych chi'n awgrymu bod rhywbeth gwael yn digwydd mewn un lle ac am ei fod yn cael digwydd rhywle arall y dylem ni adael iddo ddigwydd yng Nghymru."

Ymatebodd Ms Hudson trwy ddweud mai ei hunig ddiddordeb yw sicrhau bod cynyrchiadau yn edrych mor real â phosib.

Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i adael i ACau i benderfynu a ddylai'r rheolau gael eu newid.

Disgwylir y bleidlais yn y gwanwyn.

Nid yw'r fideo heb gyfieithiad ar gael oherwydd nam technegol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.