Dadl ar les pobl hŷn

Cymorth

Roedd undod traws bleidiol wrth groesawu adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn ar 22 Ionawr 2013.

Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y comisiynydd rhwng 1 Ebrill 2011 a 31 Mawrth 2012.

Bu'r aelodau'n rhoi teyrnged i waith y comisiynydd presennol Sarah Rochira ac hefyd waith ei rhagflaenydd Ruth Marks.

Ms Rochira sy'n gyfrifol am gefnogi'r 700,000 o bobl sydd dros 60 yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae 110,000 o'r rheini yn byw o dan y ffin tlodi; mae'r ffigwr hwn yn fwy na'r 80,000 sy'n dibynnu ar bensiwn y wladwriaeth am eu holl incwm.

Galwodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts ar y llywodraeth i weithio'n agosach â'r comisiynydd, i fonitro gofal pobl hŷn yn well ac i ddatblygu gwasanaeth eirioli ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Roedd y Dirprwy Weinidog Plant Gwenda Thomas yn fodlon derbyn gwelliannau'r blaid.

Ychwanegodd bod llawer o waith wedi dechrau eisoes ac y byddai'r mesur gofal cymdeithasol yn cynnwys darpariaeth gryfach o ran diogelu a gwarchod oedolion.

Cafodd y cynnig wedi ei ddiwygio ei gymeradwyo.

Nid yw'r fideo ar gael heb gyfieithiad oherwydd nam technegol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.