Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi amddiffyn newidiadau arfaethedig i'r gwasanaeth iechyd ar ôl beirniadaeth gan y gwrthbleidiau.

Roedd yn ymateb i gwestiynau aelodau ar 22 Ionawr 2013.

Eisoes mae rhai byrddau iechyd lleol wedi cyhoeddi cynlluniau i gau rhai ysbytai bach a symud rhai gwasanaethau i leoliadau newydd.

Heriwyd Mr Jones gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i wrthod y cynnig i symud rhai gwasanaethau gofal dwys i fabanod o ogledd Cymru i Gilgwri yn Lloegr.

Ond dywedodd Mr Jones na fyddai unrhyw lywodraeth yn "cefnogi cynllun fyddai'n peryglu bywydau.

"Ond os nad oes unrhyw newid yn y gwasanaeth iechyd, fe fydd bywydau'n cael eu peryglu."

Awgrymodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies y dylid cynnig mwy o gefnogaeth i fusnesau bach sy'n ei chael hi'n anodd codi arian er mwyn buddsoddi.

Ac fe ofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams pam nad oedd mwy o gymorth ar gael i'r diwydiant amaeth.

Gofynnwyd i'r prif weinidog hefyd ynglŷn ag addysg uwch, band llydan a diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.

Mae'r fideo yn anghyflawn oherwydd nam technegol.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.