Dadl fer: babanod newydd anedig

Cymorth

Mae cynlluniau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ad-drefnu gofal newydd-enedigol yn "amhosibl dychmygu" yn ôl yr AC Ceidwadol Antoinette Sandbach.

Roedd hi'n arwain dadl fer ar ofal newydd-enedigol ar 16 Ionawr 2013.

Ei bwriad oedd tynnu sylw at sefyllfa gwasanaethau gofal newydd enedigol i rieni yng ngogledd Cymru, ac effaith posibl newidiadau arfaethedig ar deuluoedd a phlant.

"Mae cael baban newydd anedig mewn uned gofal dwys yn ddigon gwael, ond mae gyrru cannoedd o filltiroedd i'r uned honno yn amhosibl i'w ddychmygu," meddai Ms Sandbach.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths bod iechyd babanod sâl a'r rhai wedi eu geni'n gynnar yn flaenoriaeth i'r llywodraeth ond na allai wneud sylw ar y sefyllfa yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd am y gallai'r mater gael ei gyfeirio i'r llywodraeth gan y bwrdd iechyd.

Read this in English

Darllenwch fwy

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.