Dadl y Ceidwadwyr ar lifogydd

Cymorth

Arweiniodd y Ceidwadwyr ddadl ar lifogydd yn dilyn y llifogydd difrifol a effeithiodd ar Gymru gyfan yn 2012 a'r distryw a achoswyd mewn cymunedau ledled y wlad.

Galwodd y Ceidwadwyr ar y llywodraeth i sicrhau bod datblygu gorlifdiroedd yn cael ei adolygu fel elfen ganolog o'r mesur cynllunio yn ystod y ddadl ar 16 Ionawr 2013.

Daeth galwadau o'r newydd hefyd am ymchwiliad cyhoeddus i'r llifogydd diweddar ar stad Glasdir yn Rhuthun y llynedd.

Tra'n agor y ddadl, tanlinellodd Russell George AC o'r Ceidwadwyr effaith drychinebus y llifogydd ar gymunedau yng Nghymru, gan bwysleisio pwysigrwydd diweddaru cyngor technegol.

Cytunodd y Democrat Rhyddfrydol William Powell AC.

"Tra mod i'n siŵr y gwnaiff rhai gyfeirio at gyngor mwy diweddar, llai cynhwysfawr; mae TAN 15 neu Nodyn Cyngor Technegol: Datblygu a Pherygl o Lifogydd nawr bron yn naw mlwydd oed ac wedi ei selio ar ddata a deddfwriaeth sy'n llawer hyn," meddai.

"Mae'n rhaid i ni wynebu realiti bod y cyngor yma gyda'i wreiddiau yn y Cynulliad cyntaf a nawr wedi dyddio yn sylweddol, ac angen dybryd i'w adolygu."

Mynegodd bryderon am y corff newydd Cyfoeth Naturiol Cymru a'i allu i ymdrin â llifogydd.

"Mae'n ymddangos i mi bod yna fwy a mwy o bryderu mewn rhai mannau ynglŷn â sut y bydd y corff newydd yma yn gweithredu o ystyried na fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhan o'i chwaer fawr yn Lloegr."

Galwodd Plaid Cymru am sefydlu fforwm llifogydd benodedig i Gymru fyddai'n cynnig cymorth i bobl mewn ardaloedd sy'n dioddef o lifogydd.

Dywedodd y Ceidwadwyr y dylai'r prif weinidog ailfeddwl a chynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r llifogydd diweddar ar Stad Glasdir yn Rhuthun.

Dywedodd Darren Millar ei bod hi'n "bwysig bod person annibynnol yn adolygu rôl pob corff oedd â rhan mewn rheoli risg o lifogydd ar y Stad, ac dyna pam rwy'n credu bod y prif weinidog yn anghywir i beidio â chynnal ymchwiliad cyhoeddus."

Dywedodd y GweinidogAmgylchedd a Datblygu Cynaliadwy John Griffiths ei fod yn bwriadu cynnal uwchgynhadledd ar lifogydd.

Ychwanegodd bod TAN 15 yn adlewyrchu polisi presennol, ac yn cael ei adolygu yn gyson.

Pwysleisiodd bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhoi cyngor technegol bron yn ddyddiol.

Read this in English

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.