Cwestiynau tai, adfywio a threftadaeth

Cymorth

Rhybuddiodd y gweinidog tai, adfywio a threftadaeth nad yw'r arian dros ben o'r gemau Olympaidd yn debygol o gael ei ryddhau yn 2014.

Roedd Huw Lewis yn ymateb i gwestiynau yn ymwneud â'i adran ar 16 Ionawr 2015.

Holodd AC Plaid Cymru Simon Thomas y gweinidog a fyddai'r llywodraeth yn sicrhau bod Cymru'n cael ei "chyfran deg" o'r cyllid sy'n weddill ar ôl y gemau Olympaidd.

Dywedodd Mr Lewis y byddai'r llywodraeth "wrth gwrs" yn gwneud hynny, ond nad oedd yn credu y byddai'r arian ar gael mor fuan.

"Yn ôl yr hyn ydw i'n ei ddeall, fydd dim £100m ar gael yn sydyn yn 2014, y bydd hi'n cymeryd amser sylweddol hirach i werthu'r asedau ac i'r arian ein cyrraedd ni.

"Ond mae'n wir i ddweud y dylem ni ystyried arian loteri fel rhywbeth y gallwn ni fanteisio arno fe yn ein cymunedau fel rhan o'r bonws Olympaidd."

Bu Mr Lewis hefyd yn ateb cwestiynau ar bynciau amrywiol gan gynnwys digartrefedd, budd-daliadau tai a phobl sy'n prynu tai am y tro tro cyntaf.

Yn dilyn y cwestiynau i'r gweinidog tai, cafodd AC Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones y cyfle i ofyn cwestiwn brys i'r Gweinidog Busnes Edwina Hart ar ddyfodol Welsh Country Foods.

Cafodd Bethan Jenkins hefyd ei hethol yn aelod o'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Jocelyn Davies.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.