Dadl ar fabwysiadu

Cymorth

Galwodd y pwyllgor plant a phobl ifanc ar y dirprwy weinidog plant i ail ystyried creu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol annibynnol ar 16 Ionawr 2013.

Mae'r pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad oedd yn edrych yn fanwl ar brofiadau'r rheini sydd wedi bod yn rhan o'r broses fabwysiadu ac i glywed eu llais.

Mae'r aelodau'n galw'n unfrydol ar y llywodraeth i fod yn fwy uchelgeisiol ynghylch cynlluniau ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu cenedlaethol.

"Nid awdurdodau lleol ddylai fod yng ngofal y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol," meddai cadeirydd y pwyllgor, Christine Chapman.

"Dyw mân newidiadau ddim yn ddigon, rhaid i ni gael model cwbl newydd fydd yn gweithio i blant.

"Os na wnawn ni hwn yn iawn, fe fyddwn ni'n colli cyfle mawr."

Adleisiodd aelodau'r pwyllgor sylwadau Ms Chapman.

Dywedon nhw hefyd y dylai'r gwasanaeth cenedlaethol newydd fod yn gyfrifol am amryw o agweddau ar fabwysiadu ac y dylid darparu cymorth gwell i deuluoedd sy'n mabwysiadu.

Eglurodd Julie Morgan sydd wedi mabwysiadu ei hun bod 231 o blant yn aros am rieni ar 31 Mawrth 2012 ac mai ond 27 teulu oedd ar gael.

"Mae'r sefyllfa'n gwaethygu," meddai.

"Rydym ni'n methu'r plant yma am nad ydyn ni'n cynnig y sicrwydd o gartref iddyn nhw."

Yn ei hymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Plant Gwenda Thomas bod "angen newid radical" ond roedd hi o'r farn bod cynlluniau'r llywodraeth yn mynd i gynnig hynny.

"Bydd sefydlu'r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yn ateb anghenion plant," mynnodd.

O'r 16 o argymhellion yn yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un arall, naill ai'n llawn neu o ran egwyddor.

Read this in English

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.