Dadl ar amddiffyn yr arfordir
Cefnogodd y cynulliad adroddiad gan y pwyllgor amgylchedd sy'n dweud mai erydu arfordirol yw un o'r peryglon naturiol sy'n fwyaf tebygol o effeithio diogelwch a chynaliadwyedd cymunedau ar draws Cymru ar 16 Ionawr 2015.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor dros gyfnod yr ymchwiliad, William Powell, ei fod yn falch i'r llywodraeth dderbyn naw o'r 11 argymhelliad yn llawn a derbyn y ddau arall mewn egwyddor.
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths bod rheoli erydu arfordirol yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.
Hawliodd bod yr argymhellion yn cyd-fynd â pholisi presennol y llywodraeth.
Ychwanegodd bod y gwaith o weithredu'r argymhellion eisoes wedi dechrau.
Eglurodd na fyddai modd dileu erydiad arfordiol na llifogydd ond bod modd cyfyngu arnynt ac y gallai'r ffordd mae cyrff cyhoeddus yn ymateb iddyn nhw wella.
Er bod llifogydd yn fygythiad mwy uniongyrchol i'r boblogaeth, fel y gwelwyd yn y canolbarth yn 2012, mae erydu'r arfordir yn parhau i fod yn broblem hir dymor.
Fe ryddhawyd strategaeth llifogydd cenedlaethol y llywodraeth fis Tachwedd 2011.
Wrth lansio'r strategaeth, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths y byddai cynhesu byd-eang yn cynyddu'r siawns o lifogydd ac erydu'r arfordir yn y dyfodol oherwydd mwy o law ac yn codi lefelau'r môr.
Dywedodd: "Yn sgil y llifogydd, bydd mwy o berygl i fywyd, yr economi a'r amgylchedd."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~47~RS~)