Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Mae "perfformiad a phresenoldeb yn mynd law yn llaw" yn ôl yr arbenigwr triwantiaeth yr Athro Ken Reid.
Roedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar 17 Ionawr 2013.
Mae'r pwyllgor yn adolygu effeithiolrwydd polisi a chanllawiau llywodraeth Cymru i hyrwyddo ymddygiad a phresenoldeb cadarnhaol yn y ddarpariaeth addysg i blant o oedran ysgol gorfodol.
Mae'r Athro Reid o'r farn bod y llywodraeth wedi anwybyddu nifer o argymhellion oedd wedi eu cynnwys mewn adroddiad ysgrifennwyd ganddo ar eu cyfer bum mlynedd yn ôl.
Roedd yn dweud bod angen cynnydd sylweddol ar faint o hyfforddiant oedd ar gael i athrawon wrth ymdrin â thriwantiaeth.
"Roeddwn i gyda Jane Hutt pan oedd hi'n weinidog ac fe wnaethom ni gyhoeddiad gyda'n gilydd ynglŷn â'r ddogfen," eglurodd wrth y pwyllgor.
"Gwnaeth hi rai cyhoeddiadau ar y pryd.
"Un er enghraifft oedd y byddai £1m yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi rheolaeth ymddygiad.... bedair blynedd yn ddiweddarach, does dim wedi digwydd.
"Rydw i'n gwybod bod yr hinsawdd ariannol wedi newid ond efallai mai'r hyn sydd angen i chi fel pwyllgor wybod yw pam mai Cymru yw'r unig wlad heb y math yna o strategaeth ar waith?"
Ychwanegodd bod gwledydd eraill ymhell ar y blaen o ran ffigyrau presenoldeb.
Ond dywedodd bod gan Gymru lawer mwy o broblemau gyda'i myfyrwyr na gwledydd fel Singapore a Hong Kong yn y Dwyrain Canol a'r Ffindir yn Ewrop.
"I ddechrau, does ganddyn nhw ddim cymaint o ardaloedd difreintiedig, does ganddyn nhw ddim cymaint o blant ag anghenion addysgol arbennig.
"Mae gan Gymru waith caled i ddal i fyny yn y lle cyntaf."
Canmolodd system fandio ddadleuol y llywodraeth, gan ddweud bod penderfyniad y Gweinidog Addysg Leighton Andrews i gynnwys cyfraddau absenoldeb yn y categorïau wedi gwella presenoldeb.
"Mae'n ymddangos i mi bod y tablau presenoldeb diweddaraf yn dangos ein bod ni wedi cael y cynnydd tymor byr mwyaf yng Nghymru ers ugain mlynedd."
Ond ychwanegodd ei fod yn amau na fyddai cynnydd tebyg pellach "heb rhyw strategaeth a mesurau cryfach i daclo materion arbennig a phroblemau".
Roedd yn bendant na fyddai safonau ysgolion yn codi heb fod y broblem bresenoldeb yn cael ei datrys.
"Dyw plant sydd ddim yn mynd i'r ysgol, hyd yn oed y rhai galluog, ddim yn perfformio'n well yn eu harholiadau TGAU," mynnodd.
Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
|
|---|---|
~RS~q~RS~~RS~z~RS~49~RS~)