Entente Cardi-ale

Garmon Garmon Ceiro yn llawn gorfoledd gyda'i gariad, Julie

Er gwaetha'r grasfa yn Iwerddon mae breuddwyd Cymru o gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am y trydydd tro yn olynnol dal yn fyw. Ond nid tasg hawdd fydd llorio'r Ffrancwyr sy'n llawn hyder ar ôl ennill eu dwy gem agoriadol yn erbyn Lloegr a'r Eidal.

Gyda buddugoliaeth yn allweddol i obeithion y ddau dim a fydd yna densiynau yng nghartre Garmon Ceiro a Julie Laisné yng Nghaerdydd y penwythnos hwn? Mae Garmon yn wreiddiol o Dole, ger Aberystwyth tra bod Julie, ei gariad, wedi croesi'r sianel o Angers yng ngogledd-orllewin Ffrainc.

I'r cwpl mae penwythnosau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gallu bod yn gyfnod o dynnu coes, dathlu, ac ar brydiau, pwdu.

"Le Petit Poireau"

Dywedodd Garmon: "Mae wythnos y gêm yn iawn, er dwi wedi dechre cal tecsts 'chîclyd' gan ffrindie o Ffrainc yn sôn am be ga'i neud gyda fy nghenhinen. Ma nhw'n obsesd 'da gweud wrthon ni lle i roi'r genhinen - ma nhw'n meddwl eu bod nhw'n ofnadw o ddoniol!

"Rhyngof i a Julie, neith pethe ddim dechre'n iawn tan ddydd y gêm. Ni'n cael mynd leni - 'dwi di llwyddo i gal tocynnau - jyst ni'n dau, so well i ni gadw pethe'n gyfeillgar neu fydd hi'n noson anodd! Gweud y gwir, ni'n mynd mas gyda mrawd a'i gariad e wedyn, sy'n Wyddeles, so os ffindwn ni Sais ac Albanwr, bydd 'da ni'r ffwl hows!"

Mae Julie hefyd yn dweud bod aelodau o'i theulu yn Ffrainc yn hoff o dynnu coes: "Mae fy llys-dad yn galw Garmon yn Le Petit Poireau ('Y Genhinen Fach') ac mae wythnosau'r 6 gwlad yn golygu bo fi'n gorfod pasio negeseuon rhwng y ddau am faint ma nhw'n mynd i falu'r llall."

Y glas a'r coch

"Fyddwn ni yn osgoi ein gilydd" meddai Garmon. "Ddim rili, fel arfer, ewn ni mas i wylio fe gyda'i ffrindie hi o Ffrainc a'n ffrindie i o Gymru - ma' hyn yn gweithio'n iawn fel arfer.

Warburton Y dacl a dorrodd calonau y Cymry yng Nghwpan y Byd, 2011

"Yr unig dro ath pethe ddim cweit cystal oedd y rownd gynderfynol 'na (Cwpan y Byd, 2011) lle gafodd Sam Warburton ei hala o'r maes gan y dyfarnwr, Gwyddel o'r enw Alain Rolland. 'Na'thon ni, y Cymry, lyncu mul a phwdu ac yn fuan ar ôl y gêm dyma'r merched Ffrengig yn gadel ni yn y dafarn gan bo ni'n cwyno gormod.

"Doedden ni ddim yn gollwyr da iawn y diwrnod 'na. Ond wedyn, os chi'n rhoi boi o'r enw Alain Colm Pierre Rolland i ddyfarnu gêm Ffrainc, be chi'n disgwyl?!"

"Annioddefol"

Pan fydd Cymru'n chwarae Ffrainc rhan amlaf, mae Julie yn dweud fod Garmon yn "annioddefol!...ma' fe'n orfoleddus os yn ennill ac yn pwdu os yn colli. Gweud y gwir, ma' fe'n llawn 'chîc', heblaw bo Ffrainc yn chware Lloegr - ac wedyn ma' fe'n fwy Ffrengig na fi! Cymru yw fy ail dîm i, ond mae Garmon yn gwrthod gwneud yr un fath!"

"S'dim gobeth" medda Garmon, "ma Ffrainc rhy gryf i fod yn ail dîm i fi… hefyd, dwi'n nabod gormod o Ffrancod! Ond na'i gefnogi unrhyw un yn erbyn Lloegr…."

Os bydd plant rhyw ddydd, pwy fydden nhw yn cefnogi?

Garmon: "Cymru ym mhob camp gall. Cewn nhw gefnogi Ffrainc yn Handball neu Pétanque ne rwbeth…"

"Cewn ni weld am hynna…" oedd ymateb Julie.

Y Gamp Lawn

Yn ôl Garmon: "Y rownd gynderfynol 'na oedd y gêm fwyaf cofiadwy, er i ni golli. Odd gêm olaf Pencampwriaeth 2012 yn un da hefyd - cipio'r Gamp Lawn gartre yn erbyn Ffrainc! Hefyd, oedd Ffrainc mas ohoni'r flwyddyn honno os dwi'n cofio'n iawn felly oedd hyd yn oed Julie'n weddol blês bo ni di cipio'r Gamp Lawn."

Roedd y Gamp Lawn yn dipyn o brofiad i Julie hefyd: "Dyna oedd fy mhrofiad cyntaf o fod yng Nghaerdydd a gweld Cymru'n ennill Pencampwriaeth, felly roedd e'n dipyn o agoriad llygad. Noson dda!"

Gethin Jenkins Prop Cymru, Gethin Jenkins, yn dathlu ennill y Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc, 2012

Wynebau newydd ond dyfarnwr cyfarwydd!

Mae Warren Gatland wedi dewis Rhys Webb i ddechrau Dydd Sadwrn, gyda Mike Phillips ar y fainc. George North sy'n symud i ganol y cae yn lle Scott Williams, gyda Liam Williams yn chwarae ar yr asgell.

Luke Charteris yw'r unig newid arall i'r tîm, wedi iddo wella o anaf i'w goes. Mae Rhys Priestland yn cadw ei le o flaen maswr y Gweilch, Dan Biggar.

Er y grasfa yn erbyn Iwerddon, mae Cymru yn ffefrynnau o drwch blewyn yn ôl y siopau betio mawr...ond beth mae Garmon a Julie yn ei feddwl?

Garmon: "Dwi ddim yn siŵr enillwn ni. Ma' timau'n dechre deall shwt ma chware yn erbyn ni…fel y Gwyddelod wthnos cyn dwetha. Wedi gweud hynna, collon ni yn erbyn y Gwyddelod llynedd hefyd a mynd 'mlan i ennill y bencampwriaeth. Ie, wfft, ro'i ffydd yn y bois. Buddugoliaeth glos… wedwn ni 20-16."

Julie: "Fydd hi'n dynn...ond mi wneith Ffrainc ennill o un penalti."

I ychwanegu at yr achlysur, mae'n siŵr y bydd Garmon yn hapus i glywed mai Alain Rolland fydd y dyfarnwr nos Wener!

Felly, a fydd y ceiliog yn clochdar nos Wener? Neu a fydd Le Petit Poireau yn dathlu? Gallwch glywed y cyfan yn fyw ar Radio Cymru.

Copyright © 2018 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.