Azzurri'r gorllewin

Huw a Sonia Jones Huw a Sonia Jones

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar fin dechrau, ac mae disgwyliadau yn uchel i Gymru allu cyrraedd uchelfannau'r ddau dymor diwethaf.

Gall chwaraeon, yn enwedig rygbi, uno teuluoedd a ffrindiau ledled Cymru. Ond fe all hefyd fod yn sbardun i dynnu coes ac ambell i ffrae o fewn rhai teuluoedd. Dros yr wythnosau nesaf byddwn ni'n cyfarfod â theuluoedd o Gymru sydd yn rhanedig ynglŷn â phwy i'w gefnogi yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Teyrngarwch / Dividir Lealtades

Mae Sonia a Huw Jones, sy'n byw yn Llechryd yng ngorllewin Cymru, yn hoff iawn o chwaraeon. Ond tra bydd Huw yn canu Calon Lân ac yn gwisgo'r crys coch Ddydd Sadwrn, tîm Yr Azzurri bydd Sonia yn ei gefnogi.

Mae'r teulu ar ochr Tony, tad Sonia, yn Eidalwyr, ac mae ei bedwar o blant, Sofia, Sonia, a'r efeilliad Sioned a Steffan, yn ymwybodol iawn o'u gwreiddiau Eidalaidd. Meddai Sonia: "Ma' dad yn Eidaleg ac ma' fe wastad di trio cael ni gyd fel plant i gefnogi'r Eidal yn rygbi a phêl-droed. Ma' mam wrth gwrs yn cefnogi Cymru ond mae fy chwaer a fy mrawd yn cefnogi Cymru a'r Eidal."

Tynnu Coes

George North George North yn hollti'r amddiffyn y tro diwethaf i'r Eidal ymweld â Chaerdydd

Er ei bod yn cefnogi tîm rygbi rhanbarthol y Sgarlets, Yr Eidal sy'n ennill ei chefnogaeth ar lefel rhyngwladol, a dywedodd Sonia bod tipyn o awyrgylch yn y tŷ yn ystod y Chwe Gwlad: "Ma'r ddau ohonom yn cael hwyl, ma' fe yn ychydig bach yn 'tense' tuag at y diwedd achos ni'n dau yn moyn ennill ond does dim cweryla yn mynd 'mlân. Bach o hwyl yw e na'i gyd."

Mae gŵr Sonia, Huw, hefyd yn dweud bod digon o sylwadau yn cael eu gwneud gyda thafod yn y boch: "Oes mae tynnu coes, ond dwi'n meddwl bod nhw 'di cael llond bola o golli nawr!"

Ai'r Eidal yw ail dîm Huw? "Na, dim ond pryd maen nhw yn chwarae yn erbyn Lloegr!" Mae Huw hefyd yn bendant mai Cymru fydd yn cael yr holl gefnogaeth ymysg cenhedlaeth nesaf y teulu.

Y Sgôr Ddydd Sadwrn?

Gydag anafiadau i'r chwaraewyr Andrea Masi, Giovanbattista Venditti a'r canolwr Gonzalo Canale, mae hyfforddwr Yr Eidal, Jacques Brunel, wedi dewis tîm gymharol ifanc i wynebu Cymru Ddydd Sadwrn.

Sonia a Huw gyda'r plant, Cerys a Dion Sonia a Huw gyda'r plant, Cerys a Dion

Bydd yr asgellwr Angelo Esposito yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, a bydd y chwaraewyr dibrofiad Michele Campagnaro, Leonardo Sarto a Tommaso Allan hefyd yn dechrau.

Ond mi fydd ambell i chwaraewr profiadol yn gwisgo'r crys glas. Yn eu plith bydd y blaenasgellwr Mauro Bergamasco, a ymddangosodd dros yr Eidal am y tro cyntaf yn 1998. Hefyd, bydd eu capten dylanwadol, Sergio Parisse, yn ennill cap rhif 102.

Mae'r 'bwcis' yn rhoi Cymru yn ffefrynnau clir, gyda'r Eidal yn derbyn pris o 10/1 gan y siopau betio mawr. Mae'r arbenigwyr a'r cyn-chwaraewyr hefyd yn rhoi Cymru i ennill, ac efallai mai'r gêm yn erbyn Iwerddon y penwythnos nesaf sy'n denu sylw a dychymyg y cefnogwyr.

Yn ddiplomyddol iawn, credai Sonia mai gêm gyfartal fydd hi Ddydd Sadwrn, 12-12. Ond mae Huw yn fwy optimistaidd dros ei dîm ac yn credu y bydd yn fuddugoliaeth gymharol hawdd, 29-12 i Gymru.

Gallwch glywed y cyfan yn fyw ar Radio Cymru.

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.