WEdi Dysgu

Angen amrywiaeth wrth ddysgu Cymraeg? Angen amrywiaeth wrth ddysgu Cymraeg?

Straeon Perthnasol

Mae 17,585 o oedolion dros 16 oed yn dysgu Cymraeg yn ôl adolygiad Llywodraeth Cymru o'r sector Cymraeg i Oedolion ym 2013.

O ystyried fod 2.1miliwn o bobl dros 16 oed yng Nghymru ddim yn gallu siarad Cymraeg, mae'r nifer sy'n dysgu yn 0.8% o'r 2.1 miliwn.

Mae'r adolygiad yn codi ambell i gwestiwn am y gwahanol ffyrdd o gyflwyno'r Gymraeg i'r rhai sydd ddim yn gallu siarad yr iaith. Felly, oes gan y we a'r dechnoleg newydd rôl i'w chwarae er mwyn cynyddu'r niferoedd?

Start Quote

Iestyn Dafydd

Mae modd dysgu iaith tra'n gwneud pethau eraill, fel mynd â'r ci am dro, glanhau'r tŷ, neu orwedd ar draeth.”

End Quote Iestyn ap Dafydd Say Something in Welsh
Cwrs ar lein

Mae dylanwad y we yn dechrau dod yn amlwg yn y maes gyda rhai o'r chwe Canolfan Cymraeg i Oedolion bellach yn darparu deunydd astudio ar ffurff ffeiliau sain, adnoddau ar-lein, a hyd yn oed cyrsiau Combi sydd yn cyfuno dysgu dosbarth traddodiadol gyda gweithio'n annibynnol ar lein.

Hefyd wedi'i ddatblygu mae cwrs Cymraeg, sydd yn canolbwyntio ar gael pobl i ddysgu'r iaith yn gyfangwbl ar-lein ac yn eu amser eu hun. Cafodd 'Say Something in Welsh' ei sefydlu yn 2009 gan Aran a Catrin Jones a Iestyn ap Dafydd ar ôl i Aran lwyddo dysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan yn 2001.

Canran uchel yn gadael

Wedi gweld nifer uchel o bobl yn gadael y cyrsiau dosbarth roedd e'n mynd iddyn nhw, tarodd ar y syniad am gwrs, ar-lein allwch chi weithio arno yn eich amser eich hun, ( fyddai'n cael gwared ar un esgus i beidio dysgu'r iaith). Nodwedd arall bwysig oedd fod y cwrs ar gael i bawb, a'r cwrs cyntaf yn ddi-dâl ( oedd yn cael gwared ar yr esgus fawr arall).

Yn ôl Aran : "Roeddwn i wedi trio dysgu llawer o ieithoedd eraill, ac wedi methu hyd nes i mi lwyddo gydag Wlpan - ond yn ymwybodol nad oedd llawer o adnoddau ar-lein ar gyfer y Gymraeg. Yr unig beth oedd ei angen wedyn oedd rhywun o'r De fyddai'n fodlon rhoi oriau dibendraw i'r syniad fel llafur cariad - ac unwaith gytunodd Iestyn i golli unrhyw gyfle am amser hamdden am y ddegawd nesaf, roedd pob dim yn ei le. "

Erbyn hyn, mae dros 30,000 wedi cael mynediad at y gwersi Cymraeg a 15,000 yn cael yr e-bost wythnosol am y cwrs .

Diane Owen o Washington DC Diane Owen dysgwraig ar-lein o Washington DC
Gwersi Cymraeg rhyngwladol

Gan fod y cwrs ar gael ar-lein, yn naturiol, mae wedi rhoi'r cyfle i bobl ddysgu Cymraeg lle nad oes modd arall gwneud. Prin iawn yw'r dosbarthiadau Cymraeg yn Washington DC ond mae bodolaeth y cwrs ar y we yn golygu nad oedd hyn yn rhwystr i Diane Owen ddysgu'r iaith.

Meddai Diane "Pan ddechreuais i, doedd dim bwriad gyda fi ddysgu Cymraeg. Dim ond gwybod sut i ynganu enwau trefi yn gywir o'n i'n moyn, cyn mynd ar wyliau yng Nghymru ym mis Medi 2009. Gês i fy swyno cymaint gan yr iaith wnes i barhau ar ôl y daith. Rwy'n hoffi'r syniad mod i'n siarad yr iaith a oedd yn perthyn i'm cyndadau a ddaeth o Gymru i Lundain ac wedyn i'r UDA bron ddwy ganrif yn ôl. "

"Does dim dosbarth Cymraeg yn fy ardal. Rwy'n falch o hynny bellach, oherwydd wnaeth e fy ngorfodi i edrych am adnoddau, a wnes i faglu dros Say Something in Welsh. Mae arddull y cyrsiau yn gwneud i fi deimlo yn llwyddianus o'r cychwyn cyntaf, a dyna oedd sbardun i fynd ymlaen gyda'r Gymraeg."

Start Quote

Diane Owen o Washington DC

....Rwy'n dal i ddathlu bob gair newydd....”

End Quote Diane Owen Washington DC

Er hynny mae'n rhai ei bod hi'n anodd dysgu iaith cwbl newydd heb unrhyw un yn agos i ddysgu ac ymarfer yn eu cwmni. Ond nid felly y mae hi yn ôl Diane: "Mae rhai pethau yn eitha syml yn y Gymraeg - y berfau, yn enwedig. Wnaeth y cwrs fy nhywys gam wrth gam trwy seiliau'r iaith. Gês i adwaith mor bositif. Roedd yn help gwybod fy mod i ar y trywydd iawn, dim ots am y camgymeriadau."

"Wedi hynny, wnes i ehangu fy ngeirfa, ac fy ngorwelion, wrth wrando ar gerddoriaeth bop Gymraeg ac wrth ddarllen nofelau Gymraeg bob bore ar y trên i'r gwaith. Er bod dysgu yn cymryd amser ac ymdrech, rwy' wedi mwynhau'r broses cymaint nad yw hi wedi teimlo fel gwaith o gwbl. Mae popeth rwy'n ddysgu am Gymraeg yn teimlo fel darganfyddiad. Rwy'n dal i ddathlu pob gair newydd."

Siarad a darllen

Mae Diane yn credu bod yna wahaniaeth mawr rhwng dysgu ar-lein o'i gymharu efo'r ystafell ddosbarth. "Roedd arddull lafar y cwrs yn fy siwtio i'r dim. Yn yr ysgol, roedd fy sgiliau Ffrangeg yn iawn o ran ei darllen a'i sgwennu, ond roedd fy ngallu i'w siarad wastad yn wan. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac rwy wedi ffeindio bod dechrau yno yn well i fi, ac mae'r gallu i ddarllen yn dilyn yn naturiol. Mae'r 'ymarferion gwrando' yn hynod o effeithiol i helpu deall pan wneith pobl yn siarad yn glou."

Ffrindiau newydd

Nid yn unig mae Diane wedi dysgu iaith newydd ond mae hi wedi gwneud ffrindiau newydd hefyd.

"...Rwy'n joio'r cymuned sy wedi tyfu o gwmpas fforwm Say Something in Welsh. Mae pawb yn teimlo fel ein bod ni'n dysgu gyda'n gilydd, er ein bod ni ym medwar ban y byd, ac ar wahanol lefelau o ran ein Cymraeg. Bellach, pan a'i i Gymru, rwy'n nabod pobl ym mhobman."

"Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi ffrindiau newydd i mi yn fy ardal a thramor, diddordebau newydd, angerdd newydd. Rwy wedi ffeindio rhan o'm hunaniaeth a oedd ar goll yn gynt. Mae'r iaith, a Chymru, yn rhan bwysig o fy mywyd i, ac rwy'n siwr y bydd hi am byth."

Louis Van Ekert a'i wraig Wendy Louis Van Ekert a'i wraig Wendy
Cymraeg ym mhen draw'r byd

Un arall sydd wedi manteisio ar wasanaeth Say Something in Welsh yw Louis van Ekert, sydd yn wreiddiol o'r Iseldiroedd ond bellach yn byw yn Sydney, Awstralia.

"Dw i'n ansicr pam wnes i ddechrau dysgu Cymraeg." meddai,

"Mae ychydig o resymau, ond wnes i erioed ddisgwyl medru siarad gyda pobl yng Nghymru, a nawr ysgrifennu ebost yn y Gymraeg! Anhygoel!

Start Quote

Louis van Ekert

....yn yr Iseldiroedd, lle ges i fy magu - mae pawb yn dysgu dwy neu dair iaith ”

End Quote Louis Van Ekert Sydney,Awstralia

Roedd ddiddordeb gen i mewn ieithoedd ers pan roeddwn i yn yr ysgol gynradd - ddim yn hollol annisgwyl yn yr Iseldiroedd, lle ges i fy magu - mae pawb yn dysgu dwy neu dair iaith fel arfer yno. Wnes i ddarganfod yr hen iaith pan roeddwn i mewn prifysgol yn y saithdegau, gan ffrindiau oedd yn byw ym Merthyr Tudful.

"Roeddan nhw yn teimlo bach yn drist am sefyllfa'r Gymraeg, dwi'n cofio." meddai Louis". Roeddwn i'n astudio ieithyddiaeth ar y pryd, ac roeddwn i'n synnu pam doeddwn i ddim yn gwybod dim am y Gymraeg. Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg, Gothig, Groeg Hynafol, Lladin, ond dim Cymraeg. Doedd ddim modd ar y pryd i mi ddysgu Cymraeg oni bai trwy lyfrau: ffordd eithaf anobeithiol."

Teithio yn hwb

Tra roedd e'n teithio yn Llydaw a Gwlad y Basg yn 2005 daeth Louis ar draws y Lydaweg a'r Fasgeg.

"O siarad gyda pobl am eu hiaith, cofiais am y Gymraeg eto. Yn ôl yn Awstralia, wnes i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddysgu Cymraeg. Mi gês i hyd i'r 'Big Welsh Challenge' ar wefan y BBC. Roedd hynny yn ffordd hawdd ar gyfer dysgu, ond doedd o ddim yn ddigon i mi. Yn ffodus, ymddangosodd Say Something in Welsh rhywsut, a dyma ni!

"Mae dysgu ar lein yn hollol addas i mi, achos mod i'n dysgu wrth gerdded i'r gwaith bob bore gan wrando ar y gwersi mp3. Fel mae'n digwydd, dw i'n cerdded am 40 munud, yr un hyd a gwers ar gyfartaledd. Ar y cychwyn, roedd hi ychydig yn anodd, ond ddim yn amhosib o gwbl. A dweud y gwir, roeddwn i'n edrych ymlaen at wersi newydd bob tro."

Oed ddim yn rwystr

Mae Louis hefyd wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd trwy ddysgu'r Gymraeg.

"Allwedd byd newydd i mi oedd hyn, byd o ffrindiau caredig, diwylliant a hanes difyr oedd yn anhysbys cyn i mi ddechrau dysgu. Dwi'n gobeithio hefyd mod i'n medru rhoi cymorth i'r iaith Gymraeg wrth fod yn enghraifft i ddysgwyr eraill, ac i rai sydd yn meddwl am ddysgu, efallai. Os dwi'n medru dysgu yn fy chwedegau, mi fasai pawb yn medru."

Mae'r ddau ddysgwr tramor yn rhoi atebion syfrdanol o debyg pan ofynnais iddyn nhw sut maen nhw'n cael y cyfle i ymarfer eu Cymraeg?

Yn ôl Diane yn Washington,

"Mae 'na gymaint o adnoddau ar gael ar-lein - Radio Cymru, cerddoriaeth o bob math, e-lyfrau, Skype (ar gyfer sgwrs fideo), gwefannau newyddion, blogiau, a mwy. Hefyd, mae pobl gyfeillgar ar gael sy'n ysu am helpu dysgwyr. Tasech chi'n moyn dysgu, mae'n hollol bosib."

Yn yr un modd mae Louis yn ddefnyddiwr mawr o'r dechnoleg newydd.

"Ar hyn o bryd, dw i'n dal i ddysgu trwy'r amser, gyda Radio Cymru a'r podlediadau, gan SSiW wrth gwrs, a hefyd drwy sgwrsio efo dysgwyr o gwmpas y bydd trwy Google Hangout a Skype."

Ond hefyd mae'r ddau yn defnyddio dulliau mwy traddodiadol i ymarfer siarad.

Yn ôl Louis: "Rwy'n mynd i ddosbarth Cymraeg sydd newydd gychwyn yn Sydney lle dw i'n byw, ac yn darllen llyfrau ... unrhyw ffordd bosib. Rwan, dwi'n dysgu achos mod i'n teimlo'n hapus defnyddio iaith mor hyfryd!"

Dim ond un darn o'r jig-so yw'r cwrs Dim ond un darn o'r jig-so yw'r cwrs
Cymdeithas fodern

Mae'r ddau yma, wedi llwyddo i ddysgu'r iaith o dan amgylchiadau anodd ac yn absenoldeb llwyr unrhyw gymdeithas Gymraeg yn y ffordd draddodiadol o'i ddisgrifio. Mae'r we a'r dechnoleg newydd wedi rhoi'r cyfle iddyn nhw greu'r gymdeithas hynny, ar-lein, ac yn gymharol ddi drafferth. Cofiwch hyn y tro nesaf glywch chi'r esgus "I'd love to learn Welsh, but no one round here uses it so I can't practise"

Mae'n amlwg felly fod neb yn medru dadlau fod gan gyrsiau fel Say Something in Welsh yr atebion i gyd. I ddyfynnu Iestyn ap Dafydd, un o'r sylfaenwyr :

"Mae pawb yn brin o amser, ond dyma ffordd i ddysgu i siarad iaith yn hyderus sydd yn ddelfrydol ar gyfer pobl brysur. Mae modd dysgu iaith tra'n gwneud pethau eraill, fel mynd â'r ci am dro, glanhau'r tŷ, neu orwedd ar draeth. "

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.