Cymry ar Wasgar?

Oes angen i fyfyrwyr Cymraeg sy'n astudio yn sefydliadau addysg uwch Cymru gael neuadd breswyl benodol iddyn nhw eu hunain? Dyna'r cwestiwn mae Darganfod wedi ei ofyn i ddau sydd â safbwyntiau tra gwahanol ynglŷn â'r mater.

Pantycelyn Mae yna gynlluniau i gau Neuadd Pantycelyn

Mae Osian Rhys yn gyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ac mae o'n pryderu yn fawr ynglŷn â chynlluniau'r Brifysgol i gau Neuadd Pantycelyn a symud myfyrwyr i lety newydd ar safle Fferm Penglais.

Ar y llaw arall mi benderfynodd yr arlunydd a'r gantores o Fethesda, Efa Thomas, beidio lletya gyda myfyrwyr Cymraeg eraill tra buodd hi yn astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Morgannwg.

Y DRAFODAETH

Osian Rhys: Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn sefydlu'r egwyddor "y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny". Ar un wedd felly, dyna ddiwedd y mater: mae gan fyfyrwyr hawl i ddewis byw eu bywydau yn Gymraeg, ac mae dyletswydd ar ein prifysgolion i ddarparu ar gyfer hynny.

Wedi dweud hynny, mae'n fwy na hawliau unigolion. Mae'r Cymry Cymraeg yn gymuned ieithyddol sydd â hawl i oroesi, ac er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydyn ni wedi goroesi. Ond mae'n hawdd colli golwg ar ba mor fregus yw'r sefyllfa mewn gwirionedd. Er bod canlyniadau'r Cyfrifiad yn siom i lawer, mae'r wir sefyllfa - sef mai ychydig dros hanner y 'siaradwyr Cymraeg' sy'n ei defnyddio bob dydd - yn llawer mwy difrifol. Pa ots faint sy'n gallu siarad Cymraeg, os nad ydyn ni'n gwneud hynny?

Wrth gwrs, mae'n gallu bod yn anodd byw yn Gymraeg - yn enwedig os yw ein cydweithwyr, ein ffrindiau, ein cariadon, ein teulu yn ddi-Gymraeg. Ymhob sir heblaw Gwynedd a Môn, mae'r Gymraeg wedi'i throi yn iaith leiafrifol erbyn hyn. Mae hynny'n golygu y bydd y Cymry Cymraeg, yn gynyddol, yn siarad mwy a mwy o Saesneg, a llai a llai o Gymraeg - ac mae pen draw hynny yn eithaf amlwg.

Yn lle crebachu, mae'n rhaid i ni fod yn ddyfeisgar, a chreu cymunedau Cymraeg newydd o bob math os ydyn ni am barhau i fodoli. Mae'n rhaid creu sefyllfaoedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, ac yn unig iaith. I lawer, mae prifysgol yn gyfnod ffurfiannol, yn lle i gychwyn gyrfa a bywyd fel oedolyn ac i wneud ffrindiau am oes. Wrth feddwl am greu cymunedau Cymraeg newydd, mae'r brifysgol yn lle da iawn i ddechrau, felly - ond nid mewn un neu ddwy o brifysgolion. Mae angen creu gofodau Cymraeg cryf a bywiog ar bob campws prifysgol yn y wlad, o Wrecsam i Lambed, o Fangor i Gasnewydd.

Start Quote

Mae angen creu gofodau Cymraeg cryf a bywiog ar bob campws prifysgol yn y wlad, o Wrecsam i Lambed, o Fangor i Gasnewydd.”

End Quote Osian Rhys

Efa Thomas: Mae cyfnod rhywun yn y brifysgol yn amser cyffrous ac yn adeg i ehangu gorwelion. Dwi'n credu fod hyn yn golygu dod i nabod cymaint o bobol o gefndiroedd gwahanol â phosib yn yr adeg ffurfiannol hon. Tra yn y brifysgol roeddwn yn aml mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ble byddai rhai ohonom yn siarad Cymraeg, tra byddai eraill yn y grŵp yn cymdeithasu yn Arabeg, Sbaeneg, Pwyleg neu Saesneg. Yma roedd y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol, ac yn cael ei chlywed gan bobol o dramor, mewn sefyllfa hwyl ac arferol yn yr 21ain Ganrif amlddiwylliannol. Beth yw'r ots am ddefnyddio'r Gymraeg mewn swyddi a phrifysgolion os ydi o ddim yn cael ei glywed gan bawb ar y stryd?

Mae cuddio'r Gymraeg mewn 'ghetto' fel Pantycelyn yn yr oes rydym yn byw ynddi, fel hunanladdiad yn fy llygaid i. Mae'n rhoi'r argraff mai pobol gaeëdig yw'r Cymry Cymraeg, ac nid yw yn annog myfyrwyr di-Gymraeg i ddysgu'r iaith achos ni fyddent yn cael eu croesawu i mewn. Ni fydd yr iaith yn parhau, os na fydd dysgwyr newydd. Er mwyn creu'r angerdd sydd angen i ddysgu iaith newydd mae'n rhaid i bobol ddi-Gymraeg gael eu hysbrydoli gan bobol sydd yn siarad Cymraeg, ac mewn modd cyffrous, ffres ac agored maent yn ei ddefnyddio.

Mae gen i ddau ffrind o du allan i Brydain sydd bellach yn dysgu Cymraeg, a dwi ddim yn meddwl y bydden nhw wedi cychwyn heb glywed y grŵp bach ohonom ni yn cymdeithasu, trafod, meddwi a chwerthin o fewn y grŵp mawr amrywiol o ffrindiau amlieithog.

Start Quote

Mae'n rhoi'r argraff mai pobol gaeedig yw'r Cymry Cymraeg, ac nid yw yn annog myfyrwyr di-Gymraeg i ddysgu'r iaith achos ni fyddent yn cael eu croesawu i mewn. ”

End Quote Efa Thomas

Osian Rhys: Does dim byd yn newydd am yr awgrym bod pobl sydd eisiau byw eu bywydau yn Gymraeg yn ymddangos yn "gaeëdig", neu'n gul, ond mae'n awgrym problematig tu hwnt. Fydden ni'n gwneud cyhuddiad o'r fath am unrhyw iaith arall? Does dim lle yma i drafod pam mae hyn yn cael ei ailadrodd yn achos y Gymraeg, ond yn sicr mae'n rhaid ymryddhau o'r fath hunan-ormes.

Mae sawl ffordd o ysbrydoli pobl i weld y Gymraeg fel iaith gyffrous, gwerth ei dysgu. Mae llety Cymraeg yn gallu bod yn oleudy i'r iaith - mae'n tystio i'r byd bod yna bobl ifanc sy'n dewis byw yn Gymraeg. Mae neuadd fel Pantycelyn yn gymuned Gymraeg naturiol sy'n creu miloedd o sgyrsiau Cymraeg bob dydd, ac ar hyd y blynyddoedd mae wedi tynnu pobl i mewn o bedwar ban byd i ddysgu'r iaith. Heb ofodau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, beth yw'r ysgogiad i ddysgu?

Does gen i ddim ond parch i rywun fel Efa sy'n mwynhau byw ymhlith criw amrywiol ac amlieithog ac sy'n gallu eu hargyhoeddi i ddysgu Cymraeg. Gwych o beth. Dw i'n meddwl ei bod hi'n eithriad, yn anffodus; tuedd y rhan fwyaf yng nghwmni pobl ddi-Gymraeg ydy troi i siarad Saesneg, a hynny'n ddigon naturiol. Mae'n werth ystyried un ffaith yn hyn o beth: mae llawer mwy o fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn byw y tu allan i Neuadd Pantycelyn nag sy'n byw ynddi. Beth felly yw hanes y rhai sy'n byw y tu allan i'r gymuned Gymraeg? Ydyn nhw'n llwyddo i genhadu dros yr iaith? Ble mae'r Gymraeg ar ei mwyaf bywiog mewn gwirionedd?

Start Quote

Mae llety Cymraeg yn gallu bod yn oleudy i'r iaith - mae'n tystio i'r byd bod yna bobl ifanc sy'n dewis byw yn Gymraeg.”

End Quote Osian Rhys

Oes, mae angen ymestyn allan a thynnu pobl i mewn i ddysgu Cymraeg, ond eu tynnu i mewn i ble? Mae'n rhaid wrth gymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; mae arbenigwyr cynllunio ieithyddol yn gytûn ar hyn. Er mwyn i'r Gymraeg ffynnu mae'n rhaid i ni fod yn agored, oes, ac yn groesawgar - ond rhaid i ni hefyd fyw yn Gymraeg. Mae cymunedau Cymraeg yn hanfodol yn hynny o beth. Ac erbyn hyn mae'n rhaid gwneud mwy na dim ond amddiffyn y rhai sydd ganddon ni; mae'n bryd creu rhagor.

Efa Thomas: Os wyt ti am sôn am hunan-ormes, mae byw mewn bubble fel Pantycelyn yn rhoi synnwyr ffug o ddyfodol yr iaith. Pa wahaniaeth mae'n ei wneud bod grŵp bach o bobol yn byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os nad ydi gweddill y wlad?

Mae'r mwyafrif o fyfyrwyr sy'n dod i Aberystwyth yn cael eu gadael allan yn syth o fywyd Pantycelyn. 'Dwi'n credu mai myfyrwyr Pantycelyn sydd ar eu colled. 'Fysa ti ddim eisiau clywed profiadau unigolyn sydd wedi ffoi rhag y gwrthdaro gwaedlyd yn Syria i ddod i Gymru i astudio? 'Dwyt ti ddim eisiau eu haddysgu ynglŷn â chael dy fagu yn siarad iaith lleiafrifol? Mae byw o gwmpas pobl ddi-Gymraeg yn rhan bwysig o fod yn y brifysgol ac yn fy marn i yn rhan bwysig o'n haddysg ni. Wyt ti'n medru dychmygu unrhyw grŵp arall o bobol yn dweud nad ydyn nhw eisiau byw o gwmpas diwylliannau eraill tra yn y brifysgol?

Os bydd Pantycelyn yn cau, dydi hynny ddim yn golygu na fydd cymdeithasau Cymraeg yn bodoli o gwmpas y brifysgol. 'Falle y bydd yn rhaid defnyddio Saesneg i glywed hanesion pobl eraill, ond mae'n rhaid gweld Saesneg fel arf, nid yn unig i rannu syniadau, ond i wella ein hunain ac i ddysgu am y byd allanol.

Mae canolbwyntio ar Bantycelyn fel esiampl o 'gymuned' lle mae pobl yn 'byw yn Gymraeg', yn esiampl wael gan fod yn rhaid i ti fod yn freintiedig i allu mynd i'r brifysgol yn y lle cyntaf. Dydi Pantycelyn ddim yn gymuned Gymraeg 'naturiol', fel wyt ti'n ei disgrifio. Does dim byd naturiol am unrhyw gymuned o fyfyrwyr, gan mai dod at ei gilydd am dair blynedd ac yna gwasgaru eto y maen nhw. Os wyt ti am sôn am gymunedau Cymraeg byw a naturiol, byddai yn well sôn am stâd dai cyngor Sgubor Goch yng Nghaernarfon, lle hefyd mae miloedd o sgyrsiau Cymraeg yn digwydd bob dydd. Heb unrhyw arbenigwyr cynllunio ieithyddol yn agos i'r lle, mae'r bobl yna yn gwneud popeth o fagu plant i gwffio a meddwi trwy ddefnyddio'r Gymraeg.

Start Quote

Pa wahaniaeth mae'n ei wneud bod grŵp bach o bobol yn byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os nad ydi gweddill y wlad? ”

End Quote Efa Thomas

Osian Rhys: Pan soniais i am Bantycelyn fel cymuned Gymraeg naturiol, yr hyn oedd gen i mewn golwg oedd bod y Gymraeg yn iaith naturiol, ddigwestiwn yno. Mae'r un peth yn wir am Sgubor Goch. Does dim dyfodol i'r Gymraeg heb gymunedau lle mae hi'n brif iaith, ond maen nhw'n diflannu'n gyflym. Hawdd diystyru cynllunio ieithyddol, ond yn wyneb y grymoedd sydd yn ein herbyn, dim ond mesurau (annigonol) o gynllunio ieithyddol yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, er enghraifft twf addysg Gymraeg, teledu a radio Cymraeg, polisïau iaith Cyngor Gwynedd, sydd wedi ein diogelu ni rhag sefyllfa waeth.

Dydy byw mewn llety Cymraeg ddim yn rhwystr i chi ddod i nabod myfyrwyr o bob rhan o'r byd. Yn yr un modd, dydy byw mewn llety Saesneg ddim yn golygu y byddwch chi'n cwrdd â'r amrywiaeth liwgar o fyfyrwyr rhyngwladol mae Efa'n ei darlunio, pan fo 90 y cant o'n myfyrwyr ni'n dod o Gymru a Lloegr. Beth bynnag am hynny, mae byw yn Gymraeg yn ddewis cwbl dderbyniol - yn wir, os yw'r iaith i fyw, mae'n rhaid i rywun wneud hynny - ac felly ddylai neb deimlo'n euog am wneud y fath ddewis anrhydeddus.

Nid faint sy'n gwybod am fodolaeth y Gymraeg sy'n mynd i'w diogelu, ond faint sy'n ei defnyddio bob dydd. I fi, y Gymraeg yw'r arf. Mae ystadegau gafodd eu cyhoeddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg cyn iddo ddiflannu yn sobri rhywun. Er enghraifft, erbyn hyn does dim mwy nag wyth y cant o blant oedran cynradd yn cael eu magu mewn cartrefi Cymraeg. Mae gwybodaeth fel hyn yn hollbwysig er mwyn cynllunio'r dyfodol. Allwn ni ddim aros yn yr unfan; gallwn ni adael i bethau barhau i waethygu, neu weithredu i sicrhau twf.

Yn y pen draw, o ran llety Cymraeg mewn prifysgol, rhydd i bawb wneud ei ddewis. Ond fe ddylai'r dewis fod ar gael. Nid pob prifysgol sy'n cynnig llety Cymraeg ar hyn o bryd - ac yn yr oes oleuedig hon fe ddylai pob myfyriwr prifysgol sy'n siarad neu'n dysgu Cymraeg gael y dewis, boed nhw'n dod o Sgubor Goch, Cas-gwent neu Syria.

Stiwdants yn protestio Un o'r protestiadau diweddar yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn

EfaThomas: Does gen i ddim ffydd mewn lobïo, ymgyrchu cyfansoddiadol, nac o newid pethau o'r tu mewn. Os ydi siaradwyr Cymraeg ifanc wir eisiau i'r iaith barhau, mae'n rhaid gwneud rhywbeth lot mwy radical na mynd i fyw mewn llety Cymraeg.

Y broblem dwi'n ei gweld yw bod nifer o siaradwyr ifanc Cymraeg ond efo un diddordeb dyddiau yma, sef cael swydd gyfforddus yn y Gymraeg. Dyna be' mae Pantycelyn yn helpu ei wneud. Nid ond 'byw yn Gymraeg' mae'r myfyrwyr, ond paratoi i fod yn rhan o'r sefydliad Cymraeg cliquey hunan-bwysig. Mae'n rhaid i ni gyd fod yn rhan o'r un frwydr, os ydym am ddiogelu'r iaith.

Mae angen i siaradwyr Cymraeg sylweddoli nad ni yn unig sydd yn cael ein gormesu. Mae angen agor meddyliau a llygaid i'r hyn sydd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r byd. Er enghraifft y bobl sy'n gweithio oriau hir am gyflogau pitw i gynhyrchu'r ffonau clyfar rydan ni bellach yn eu cymryd yn ganiataol. Dyma ydi gormes!

Er fy mod yn cytuno gyda gwneud cymaint ac y medri yn y Gymraeg, dwi'n meddwl fod dy amser yn y brifysgol yn amser pwysig iawn i sylweddoli beth sydd yn digwydd yn y byd allanol ac felly does gen i ddim ots fod llety Cymraeg fel Neuadd Pantycelyn yn cau.

Dyna i chi ddadleuon cryf o blaid ac yn erbyn neuaddau preswyl Cymraeg. Os hoffech chi barhau â'r drafodaeth, mi ferwch chi wneud hynny trwy drydar Osian @caffiffortisimo ac Efa @Efa_Twm ar Twitter.

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.