Paul Griffiths: 'Fedrwn i ddim dweud bod gen i broblemau'

Paul Griffiths "Mae'n rhaid i bobl siarad," meddai Paul Griffiths

Wedi gyrfa lwyddiannus ym myd y ddrama a'r cyfryngau aeth bywyd Paul Griffiths i mewn i 'drobwll' o iselder a arweiniodd at ei benderfyniad un bore i geisio lladd ei hun.

Ni lwyddodd, ac nid nes iddo ddod ato'i hun mewn ysbyty meddwl wedyn y deallodd ei fod wedi bod yn dioddef o iselder, ar ôl i feddyg ddweud hynny wrtho.

Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r dramodydd, y cyfarwyddwr a'r adolygydd theatr 40 oed yn dysgu sut i fyw ei fywyd o'r newydd.

Fis Gorffennaf 2013 fe siaradodd am ei brofiad yn agored a dirdynnol gyda Dylan Iorwerth ar Radio Cymru ac ers hynny mae wedi ysgrifennu ei ddrama gyntaf ers ei iselder, Dan y Don, sy'n disgrifio beth ddigwyddodd y bore hwnnw ym mis Mawrth 2012 er mwyn 'rhoi'r profiad i mewn i eiriau ac er mwyn, gobeithio, helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa'.

Mae wedi bod yn sôn am y cyfnod ac am ei ddrama wrth BBC Cymru:

Oedd ysgrifennu'r ddrama yn gatharsis iti?

Dwi'n meddwl ei bod hi. Mae 'sgwennu yn rhywbeth maen nhw wedi dweud wrtha i i'w wneud oherwydd ei fod yn rhan ohona i er mwyn cael pethe allan ar bapur ac er mwyn trio gwneud synnwyr o betha wedyn.

Yn y cyfnod drwg, mi o'n i yn sgwennu lot ac mae gen i bron i 100 tudalen o jyst petha oedd yn mynd drwy'n meddwl i bob dydd. Does na ddim gwerth llenyddol i raddau yn hynny ond mae na werth emosiynol a gwerth profiadau o ran trio deall i lle o'n i'n mynd a beth oedd yn mynd drwy'n meddwl i a sut o'n i'n ymateb i beth a pham.

Mae iselder yn rhywbeth cyffredin iawn yn ôl yr ystadegau, oes angen gwella ymwybyddiaeth?

Mae un o bob pedwar ohonan ni [yn dioddef o iselder] erbyn hyn dwi'n credu. Ac os ti'n defnyddio'r ddiffiniad yna maen nhw'n dweud fod traean o Dŷ'r Cyffredin yn dioddef a dwi'n credu mai dim ond dros ryw 50 o Aelodau Seneddol sydd wedi dod allan yn gyhoeddus a datgan hynny.

Paul Griffiths

Mae Paul Griffiths yn awdur, adolygydd a chyfarwyddwr ym myd y theatr. Profodd lwyddiant yn ifanc gan ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd dair gwaith ar ôl ei gilydd - yr unig un i wneud hynny - a sefydlodd ei gwmni drama ei hun yn Nolwyddelan yn 13 oed. Mae bellach yn byw yn Llundain ac yn ysgrifennu colofn wythnosol ddi-flewyn-ar-dafod ym mhapur newydd Y Cymro.

Hefyd, ar hyn o bryd y prif reswm mae pobl yn gorfod cymryd amser oddi ar eu gwaith ydy oherwydd problemau cefn. Ond ymhen dwy flynedd, os nad ynghynt, dwi'n credu mai problemau meddyliol fydd y pennaf reswm - boed yn stress neu iselder - fydd yn cadw pobl o'u gwaith oherwydd mae bywyd y dyddiau yma, boed yn straen ariannol, meddyliol, emosiynol, yn effeithio ar rywun.

Dyna'r peth mwyaf imi a fy neges i - a pam mod i wedi cytuno i wneud y cyfweliad efo Dylan Iorwerth - oedd nad oeddwn i'n gwybod mai salwch oedd wrth wraidd pam mod i yn ymateb i betha fel ag y roeddwn i.

Mi fues i am 38, os nad 39, o flynyddoedd yn byw fy mywyd a ddim yn deall pam mod i'n ymateb i berthynas â rhywun arall yn y dull roeddwn i'n ei wneud. Pam nad oeddwn i'n gallu cynnal perthynas. Pam nad oeddwn i'n gallu delio efo lot o betha gwahanol - ro'n i'n ofnadwy o ran arian, ro'n i'n ofnadwy o ran ffrindiau, ro'n i isho bod ar ben fy hun ro'n i'n ei chael hi'n anodd iawn, iawn i fyw.

Wedyn mae rhywun yn defnyddio petha wedyn i drio gwneud bywyd yn haws. Mae rhywun yn troi at ddiod. Wedyn mae rhywun yn cael hwyl ac yn ymlacio ac yn cael diod arall a diod arall a wedyn ti ddim yn gwybod pryd i stopio wedyn mae na fwy o lanast yn dod yn sgil hynny.

Doedd gen ti ddim syniad dy fod yn dioddef o iselder tan ar ôl iti gael y diagnosis ar ôl trio lladd dy hun?

Na, a dyna be sydd wedi fy nychryn i yn fwy na dim. Ro'n i'n meddwl ar un adag, 'reit dwi'm yn dallt fy hun' achos ro'n i'n cael cyfnodau lle ro'n i'n mynd i yfed. Ac wedyn yn hwyr y nos ro'n i'n cael fy hun yn gofyn 'Be dwi'n neud fan hyn? Dwi'n ganol y parc 'ma yn gweiddi', ac o'n i'n flin, yn anhapus. Do'n i jyst ddim yn deall y sefyllfa.

A rŵan, pan ti di cael diagnosis a pan ti di cyrraedd y gwaelod mewn ffordd - achos yn y chwe wythnos yng ngofal yr ysbyty meddwl ti'n cael dy gau oddi wrth y byd - ac yn cael cyfle i feddwl yn ôl, ti'n sylweddoli 'Iesgob, pwy ydw i? Pwy ydy Paul Griffiths? Pam mod i yn y llanast yma?' A ti'n trio wedyn gwneud synnwyr o bob dim.

Ti'n edrych yn ôl ar berthynasau a ti'n gweld patrwm tebyg iawn iawn ym mhob perthynas ac yn gweld patrwm yn y ffordd ti di bod yn gwario dy arian, yn y ffordd ti di bod yn dy waith ac yn sydyn reit mae bob dim yn gwneud synnwyr.

A dyna'r unig ffordd o egluro hynny ydy mai salwch ydio. Felly mae'n rhaid newid y ffordd mae rhywun yn byw, newid y ffordd mae rhywun yn meddwl a newid y ffordd mae rhywun yn defnyddio geiriau hefyd i raddau, i ddysgu be ma nw'n ei alw'n mental first aid kit, sef dysgu sgiliau newydd i ddelio efo sefyllfaoedd mewn ffyrdd gwahanol.

Wnest ti ddim meddwl bod angen iti estyn allan a gofyn am help?

Start Quote

Roedd gen i dros 800 o ffrindiau ar Facebook ac o'n i'n meddwl 'Be aflwydd di pwynt rhain?' Does neb yn gofyn sut wyt ti. Ti'n cael ambell i ben-blwydd hapus ond fel arall ffigwr ydi o. Ac o'n i'n meddwl taswn i wirioneddol isho rhywun y funud yma ... mae'n beth mor ffug â hynny.”

End Quote Paul Griffiths

Ers pan on i'n ifanc iawn, am sawl rheswm, dwi'n berson sydd wedi gorfod delio efo pethau fy hun ... Wedyn dyna be dwi'n sôn bod rhaid newid 20 mlynedd, os nad 30 mynedd, o ffordd o feddwl. Wrth fynd drwy'r therapi rŵan dwi'n meddwl wel ok, mae na sawl enghraifft o hynny yn fy mywyd i lle dwi wedi gorfod jyst delio efo pethau a chario 'mlaen.

Wedyn mi gollais i fy nhad yn 2002 i gancr wedyn colli mam yn 2005, yn agos iawn at ei gilydd. Ar ôl iti golli dy ddau riant ti wedyn yn gorfod meddwl fel 'na. Does gena i ddim cartra mwyach. Does genai ddim tŷ. Does gen i unlla i fynd iddo i gael cysur neu hyd yn oed adeg Dolig neu ben-blwydd - o gael cerdyn Dolig a cherdyn pen-blwydd - achos dy rieni di ydy'r rhai sy'n darparu hynny ers ti'n ddim o beth.

Dwi'n credu mai dyna pam nad oeddwn i'n gallu rhannu tŷ efo neb, roedd rhaid imi gael sicrwydd o nhŷ fy hun, fy fflat fy hun, er mwyn medru byw. Achos o'n i'n meddwl, taswn i'n cael ffrae, fydde gen i unlle i fynd. Ac erbyn hyn wrth gwrs maen nhw i gyd yn broblemau seicolegol a dyna pam mae rhywun yn dal i gael therapi.

Roedd na sawl sbardun i dy iselder di - colli dy rieni, problemau ariannol ....

... oedd, ac o'n i'n methu concentratio yn y gwaith, roedd fy ngwaith i'n dioddef a hefyd roedd na bwysau dychrynllyd yno [roedd Paul yn gweithio i gwmni theatr ieuenctid cenedlaethol yn Llundain] ...

Mae bob dim wedyn yn mynd i dy feddwl di a ti'n deud 'Allai ddim cario mlaen efo hyn' ond hefyd yn gwybod bod yn rhaid imi weithio neu dwi'n mynd i golli fy nhŷ ac os dwi'n colli fy nhŷ fydd gen i unlla i fynd.

Wedyn ti yn y cylch du na - y trobwll du na lle ti'n mynd rownd a rownd a rownd. Fedri ddim meddwl yn y cyflwr yna am ddim. Fedri di ddim meddwl am un ffrind, fedri di ddim meddwl am ddyddiau da, fedri di ddim meddwl am un atgof melys, rwyt ti jyst yn gweld duwch, yn bod yn negyddol ac yn methu gweld unrhyw ateb.

Beth fyddai wedi gallu dy stopio di, ac unrhyw un arall mewn sefyllfa debyg? Sut mae cyfleu'r neges i rywun sydd yn y trobwll ynabod hyn yn rhan o'r salwch?

Mae'n gwestiwn anodd. Mae pawb yn wahanol. Be fyddwn i'n ddweud ydy mai'r cam cyntaf - na allwn i ei wneud, ac na fedrwn i ddim ei wneud - oedd jyst siarad efo pobl. Agor fy hun i fyny i gyfaill, neu bartnar, neu deulu a deud 'ylwch, dwi methu copio' neu 'ylwch mae gen i broblemau'.

Yn yr un ffordd y gwnaethon nhw ddweud wrthai yn yr ysbyty 'Mi fysat ti wedi gallu cael cymorth ariannol. Tasat ti wedi colli dy waith, mi fysat ti wedi gallu cael budd-daliadau, fysat ti wedi gallu cael cymorth i dalu dy rent'. Ond ti ddim yn gallu meddwl am y pethau yna fel rwyt ti.

Mae na falchder hefyd mae'n siwr?

Start Quote

Dwi'n gobeithio bod y ddrama yn cyfleu'r ofn ac mai nid dyna ydi'r atab a bod na help hefyd i'w gael.”

End Quote Paul Griffiths am Dan y Don

Oes. A dwi di clywed straeon yn y ddwy flynedd ddiwetha ma am bobl yn lladd eu hunain am nad oedden nhw eisiau dweud wrth neb fod ganddyn nhw broblemau ariannol neu'n methu delio efo'u rhywioldeb neu rwystredigaeth creadigol yn eu tagu nhw neu'n eu mygu nhw.

A dyna sut dwi'n teimlo bod rhaid i bobl siarad, mae'n rhaid i bobl fod lot mwy agored a siarad a gwrando a deall fod na atebion a bod na glustiau i wrando. Achos unwaith rwyt ti yn y duwch, yn yr iselder, mae hi'n andros o job dod ohono.

Dwi'n meddwl mai dyna ddychrynodd fi yn fwy na dim oedd fy mod i mor benderfynol o wneud [lladd fy hun], fel dwi'n gobeithio mae'r ddrama yn ryw fath o egluro ... Dwi'n gobeithio bod y ddrama yn cyfleu'r ofn ac mai nid dyna ydi'r atab a bod na help hefyd i'w gael.

Beth mae'r ferch yn y ddrama yn ei gynrychioli?

Yr ochr fenywaidd, y llais cudd, neu'r ochr fenwyaidd sydd gan bawb. Mae'r cymeriad yn fwriadol amwys, yn gyfuniad o sawl llais ... Mae na leisiau gwahanol yn dy ben di o hyd, dy emosiynau di, dy synnwyr di, neu dy ddaliadau crefyddol. Dwi di cael fy magu drwy'r capal a'r eglwys felly dwi'n gwbod bod hyn a hyn yn beth drwg, dydw i ddim i fod i regi, dwi ddim i fod i neud hynna, dwi fod i barchu pobl ond mae'r ochr diawl yn fy mhen i'n deud 'gwna hynna!' Mae o'n gyfuniad o bob dim mewn ffordd.

Paul gyda actorion Dan y Don Paul gydag actorion Dan y Don

Mae'r gath fach sydd yn mewian yn gymeriad mor bwysig â'r gweddill, os nad pwysicach, oherwydd yn y broses therapi y peth cyntaf ddudon nhw oedd bod yn rhaid imi gael anifail anwes, ci neu gath, i roi rheswm i godi yn y bore - sef y cariad diamod, unconditional love, rhywun imi ofalu amdano heb ddisgwyl y gofal yna nôl.

Dyna pam mae'r mewian yn dod i fewn ar bwyntiau mor bwysig. Mae'n dweud 'Wel, c'mon, mae'n rhaid iti godi rŵan oherwydd mae'r gath eisiau bwyd, mae'r gath eisiau sylw'. Fedri di ddim aros yn dy wely neu yn y tŷ.

Rydw i'n cymryd meddyginiaeth ar hyn o bryd. Mae'n fy nghodi uwchlaw'r tonnau - fy nghadw mewn rhywle saff ond dydw i ddim isho bod ar rheiny am weddill fy oes. Unwaith fydd y dŵr wedi cilio a fyddai'n medru rhoi fy nhraed ar dir solat a defnyddio'r holl wersi a'r sgiliau dwi di eu cael - cadw dyddiadur, cadw'n brysur, cael digon o ymarfer corff a chael rŵtin. Y rheolaeth yna - a dyna'r tri gair sydd yn y ddrama, gobaith, rheolaeth, cymdogaeth - nes cyrraedd tir solat.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Copyright © 2019 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.