Straeon personol trychineb Senghennydd

Pwll glo yr Universal Roedd Glofa'r Universal yn un o'r rhai peryclaf

Straeon Perthnasol

I nodi canmlwyddiant un o ddamweiniau glofaol mwyaf Prydain mae Manon Eames wedi ysgrifennu drama radio newydd sy'n dweud stori go iawn rhai o'r bobl gafodd eu lladd yn y drychineb.

Lladdwyd 439 o ddynion mewn ffrwydriad nwy dan ddaear ym mhwll glo'r Universal yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913 gan greithio'r gymuned gyfan a oedd wedi tyfu o gwmpas y pwll.

Gadawyd 205 o wragedd heb wŷr, 62 o rieni heb feibion a thros 500 o blant heb dad gan y ffrwydriad.

Mae'r ddrama, Tu Hwnt i Ddagrau: Lleisiau Senghennydd, yn cael ei darlledu ar Radio Cymru, ynghyd â rhaglen ddogfen am y drychineb. Cafodd Elin Meredith sgwrs efo Manon Eames am ei hymchwil i'r hanes.

Am beth mae'r ddrama?

Ro'n i eisiau edrych ar ochr bersonol y drychineb. Mae 'na lot o ffeithiau am be ddigwyddodd, pam ddigwyddodd o, sut gafodd y teuluoedd eu trin wedyn, ond mi wnes i benderfynu efallai y byddai 'na lot am hynny yn cael ei ddweud yn y rhaglenni dogfen felly ro'n i eisiau edrych ar beth oedd scale y drychineb i bobl leol.

Sut aethoch chi ati i wneud yr ymchwil?

Mae 'na restr ar gael o bawb gafodd eu lladd a'u cyfeiriad nhw felly be wnes i oedd cael map o Senghennydd, mynd drwy faint o bobl wnaeth farw ar bob stryd, ticio'r enwau a lle roedden nhw'n byw ac wedyn roeddech chi'n gallu gweld fod na un yn rhif 1, dau yn rhif 3, un yn rhif 4, dau yn rhif 6 ac yn y blaen, sydd yn dangos scale y peth a sut wnaeth o fwrw enaid y gymuned i gyd.

Stryd yn Senghennydd "A victim in every house" yw'r pennawd i'r llun yma o stryd yn Senghennydd

Roedd y tai i gyd bron wedi colli rhywun - neu wedi colli rhywun yn agos iddyn nhw. Neu, wrth gwrs o'r 19 gafodd eu hachub - sut roedden nhw'n teimlo wedyn pan oedden nhw'n gorfod mynd adref ac yn byw ar stryd yn llawn pobl oedd wedi colli rhywun?

Mi wnes i hefyd edrych ar y census i weld pwy arall oedd yn byw yn y tai efo'r bobl yma. Felly ro'n i'n gallu gweld bod Charles Baker, er enghraifft, yn byw yn y tŷ yma a bod ganddo chwech o blant. Wedyn roeddwn i'n gallu gweld ar y census pwy arall oedd yn byw yn y tŷ, a oedd gan y wraig waith neu beidio ac yn gallu adeiladu darlun o'r teuluoedd drwy ymchwil manwl.

Nes i wedyn brintio map mawr o bwll yr Universal dan ddaear, sy'n dangos lle roedd y cyrff i gyd, efo rhifau. Dydy'r map ddim yn rhoi enwau'r cyrff - achos doedd dim posib adnabod rhai ohonyn nhw am eu bod nhw wedi cael eu llosgi mor wael.

Doeddech chi ddim yn gallu cyfateb y person i'r rhif bob tro felly?

Na, ond roedd 'na dystiolaeth mewn ymchwil arall oedd yn dweud lle roedd pobl yn gweithio. Felly roeddwn i'n gwybod, er enghraifft, bod y teulu Baker yn gweithio yn ardal Bottanic y pwll, felly roedd yn gwneud synnwyr i feddwl mai fanno gafon nhw eu lladd.

Merch yn dal babi mewn siôl Gymreig Y "fam fach" yn dal ei babi mewn siôl Gymreig wrth edrych i lawr ar y pwll.

Roedd yn fater o wneud jig-sô o'r holl le. Wedyn yn Senghennydd ei hun, gweld lle roedd y teulu yn byw a gweld bod y wraig newydd gael babi ac felly roeddwn i'n gallu rhoi hwnna yn erbyn stori'r pwll ac adeiladu stori bersonol rhai o'r bobl.

Ar bwy ydych chi'n canolbwyntio yn y ddrama?

Dwi wedi canolbwyntio ar ddau fachgen oedd ar eu diwrnod cyntaf i lawr yn y pwll. Maen nhw newydd fynd i mewn i'r pwll ac i lawr dan ddaear am y tro cyntaf pan mae'r ffrwydriad yn digwydd. Sut oedd hi iddyn nhw fel hogiau bach 12 oed ddim yn gwybod be oedd yn mynd ymlaen?

Dwi wedi canolbwyntio hefyd ar deulu lle roedd dau frawd wedi mynd i un rhan o'r pwll a'r brawd arall a'r tad wedi mynd i'r ochr arall. Cafodd y brawd a'r tad eu lladd ond roedd y ddau frawd yn yr ochr ddwyreiniol lle doedd 'na ddim tanchwa. Mi ddaru nhw drio mynd trwodd i'r ochr orllewinol i chwilio am eu brawd a'u tad ond roedden nhw'n gwybod bod 'na ddim gobaith wrth gwrs.

Dynion yn aros am newyddion Brodyr, tadau a meibion yn aros am newyddion

Mi gafon nhw eu dau eu hachub ond mi gollon nhw'r tad a'r brawd arall. Cymerodd fis iddyn nhw ddod o hyd i'w cyrff ac mi fethodd y mab 'fenga â mynd i'r angladd achos ei fod wedi ypsetio gormod a wnaeth o erioed fynd dan ddaear eto. Mi wnaeth adael y pwll a mynd i weithio efo pawn brokers. Wedyn aeth i'r rhyfel yn 1914 a chael ei ladd yn y Somme. Mae'r straeon mor drist.

Beth oedd yr amodau yn y gymdeithas ar y pryd? Oedd hi'n gymdeithas dlawd iawn?

Er nad oedd y tâl yn grêt, Senghennydd oedd dal y pwll oedd yn talu orau felly dyna pam fod gymaint o ddynion yn gweithio yno, a'u bod yn dod o ardal mor eang. Roedd y rhan fwyaf o Senghennydd ac Abertridwr, roedd 'na lot fawr iawn o ddynion o Gaerffili, ac roedd hyd yn oed rhai o Gaerdydd - achos fod Senghennydd yn talu'n dda.

Ond, Senghennydd hefyd oedd y pwll peryclaf. Roedden nhw i gyd yn gwybod fod 'na lot o nwy yna ac roedd y ffordd roedden nhw'n mynd at y glo hefyd yn beryg.

Paratoi i gludo arch o'r safle Mae'r pennawd i'r llun yma o baratoi i gludo arch o'r safle yn dweud y cyfan: "The scene at the Pithead, hour by hour, all through the day".

Roedd 'na ddamwain wedi bod ychydig ynghynt ac roedd honno'n ddamwain oherwydd nwy ac maen nhw'n meddwl mai am nad oedd y ddamwain honno wedi cael ei hymchwilio'n iawn, mai dyna ydi'r rheswm fod yr ail ddamwain mor ddrwg. Roedd pawb yn gwybod fod Senghennydd yn bwll budr.

Ai dyna pam roeddwn nhw'n cael eu talu'n well?

Wel, ie. Ond doedd o'n dal ddim yn lot. Ond dyna pam roedden nhw'n mynd dan ddaear - achos fod y tâl yn weddol o'i gymharu.

Beth oedd effaith y digwyddiad ar y gymdeithas?

Aeth lot fawr iawn ohonyn nhw nôl dan ddaear ac mae rhywun yn meddwl amdanyn nhw wedyn, a chyn hynny, yn mynd i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe wnaeth y gymuned yn Senghennydd ac Abertridwr golli lot fawr iawn o ddynion yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedyn hefyd.

Mae Tu Hwnt i Ddagrau: Lleisiau Senghennydd yn cael ei ddarlledu ar Radio Cymru dydd Sul, Hydref 13 am 18.45 a ddydd Mawrth, Hydref 15 am 14.00.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.