Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?

Baner Cymru ar wyneb merch Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod cadarnleoedd y Gymraeg yn crebachu

"Os yw'r Gymraeg i oroesi yr unig ffordd i hynny ddigwydd yw trwy ddenu'r di-Gymraeg i'w chofleidio. Ond bydd pris i'w dalu ... sef gweld newid sylfaenol yn strwythur yr iaith."

Dyna farn un arbenigwr 100 mlynedd ar ôl cyhoeddi llyfr gramadeg dylanwadol Syr John Morris-Jones, A Welsh Grammar, Historical and Comparative .

Rhoddodd John Morris-Jones seiliau cadarn i safonau gramadegol yr iaith Gymraeg a phwyslais mawr ar gywirdeb.

Ond gyda'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg wedi disgyn i 19% a ddylen ni anghofio am 'gywirdeb' iaith a chanolbwyntio ar annog pobl i'w defnyddio?

Daw'r sylw gan Ioan Talfryn - arbenigwr ar ddysgu ail-iaith ac un o brif diwtoriaid y gyfres deledu Cariad@Iaith - mewn trafodaeth gyda Dafydd Glyn Jones - awdur, golygydd a chyn uwch ddarlithydd yn y Gymraeg.

I nodi canmlwyddiant cyhoeddiad John Morris-Jones (Mai 3, 1913), gofynnodd Elin Meredith, BBC Cymru, iddyn nhw drafod a oes ots am safonau gramadeg?

Y DRAFODAETH

Dafydd Glyn Jones: "Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?" Fe allwn ni estyn y cwestiwn: "Beth yw'r ots am ramadeg unrhyw iaith? Beth yw'r ots am ramadeg o gwbl?"

Un ateb posibl: mae fel gofyn "Beth yw'r ots am y tywydd?" Mae gramadeg, fel y tywydd, efo ni bob amser. Un o bethau sylfaenol, diosgoi bywyd ydyw. System iaith, gwead yr iaith, yr hyn sy'n ein galluogi i siarad â'n gilydd, dyna ydi gramadeg. Ar y llaw arall: fe ellir mynd trwy fywyd heb wybod dim byd o gwbl am ramadeg, h.y. heb ei hastudio, heb ei dadansoddi, fel y gwna'r rhan fwyaf o ddynol ryw ym mhob oes a gwlad, mae'n debyg.

Allwch chi ddysgu iaith newydd heb wybod dim am ei gramadeg? Mewn egwyddor, gallwch. Dysgu trwy ddilyn, trwy ddynwared. Felly mae'r rhan fwyaf ohonom ni Gymry wedi dysgu Saesneg, canys felly mae'r gwas yn dysgu iaith ei feistr.

Start Quote

Beth yw 'rheol gywir'? Rheol sy'n crynhoi arfer naturiol yr iaith”

End Quote Dafydd Glyn Jones

Fe wnaethom ni hynny oherwydd yr orfodaeth, oherwydd y pwysau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol gan y bobl drechaf ar y bobl wannaf.

Lle mae'r meistr, o ewyllys da, o ddiddordeb, o gydwybod neu beth bynnag, yn dysgu iaith y gwas, mae'n sefyllfa wahanol, ac yn y sefyllfa honno fe all gwybodaeth ffurfiol o ramadeg fod yn fwy perthnasol.

Fe ddaw dysgwyr y Gymraeg o blith lleiafrif bychan o wirfoddolwyr, pobl, at ei gilydd, yn cael eu cymell gan awydd a diddordeb. Bydd y rhain yn fwy tueddol o ofyn "pam?" ac i esbonio pam bydd rhyw lond llaw o dermau gramadeg yn ddefnyddiol.

Bydd rhai o'r Dysgwyr hyn yn gofyn am y rheol, a byddai Ioan a minnau'n ceisio rhoi iddyn nhw reol gywir, nid rheol anghywir neu ddychmygol. Beth yw 'rheol gywir'? Rheol sy'n crynhoi arfer naturiol yr iaith. Sy'n dod â ni at Syr John Morris-Jones.

Pam y teimlodd ef y rheidrwydd hwn i ddiffinio gwir deithi neu gymeriad y Gymraeg? A oes yr un rheidrwydd arnom ni heddiw?

Ioan Talfryn: Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i wrth fy modd gyda llyfrau gramadeg o bob math. Fel rhywun a raddiodd yn Y Gymraeg, ac sydd wedi dysgu ieithoedd eraill ers hynny, mae ymddiddori mewn gramadeg wedi bod yn dipyn o obsesiwn gen i.

Llyfr Gramadeg John Morris-Jones "Trafodaeth academaidd, fanwl, bwyllog sydd yn y Welsh Grammar."

Rhaid i mi gyfaddef hefyd, o ran defnydd ysgrifenedig o'r Gymraeg, fy mod i (yn y gorffennol, o leiaf) wedi tueddu i berthyn i'r traddodiad ceidwadol.

Ond bellach, a finnau'n ennill fy mara beunyddiol yn dysgu Cymraeg i oedolion ers blynyddoedd lawer ac wedi codi tri o blant ar aelwyd Gymraeg yng nghyffiniau'r Rhyl Heulog Saesneg a Seisnig, dw i'n ymwybodol iawn o densiwn cynyddol ynof ynglŷn â gwerth neu briodoldeb fy ngheidwadaeth ieithyddol hanesyddol.

Dw i'n tueddu i wylltio pan glywaf ohebwyr chwaraeon ar Radio Cymru'n cyfeirio at Sir Amwythig a Sir Efrog yn hytrach na chadw at y term 'Swydd'. Dw i'n gwingo pan fydd fy mhlant yn dweud pethau megis 'tri punt' neu 'unrhyw ffordd' yn lle 'beth bynnag' (erbyn hyn maen nhw'n gwneud hynny'n fwriadol fel jôc). Dw i'n gwgu i fi fy hun hefyd, ar brydiau, o ddarllen llythyrau neu ddogfennau mewn Cymraeg gwallus.

Ond ai fi sy'n hen ffasiwn? Ai fi sydd angen newid fy safbwynt? Onid afon yn llifo yw iaith fyw yn hytrach na llyn llonydd, chwedl Syr Ifor Williams? Fel Darwinydd pur oni allaf dderbyn fod esblygiad ieithyddol yn rhan annatod o'r profiad dynol?

Efallai mai'r cwestiwn pwysig yw nid cymaint "Beth yw'r ots am ramadeg Y Gymraeg?" ond "A yw rhoi pwyslais ar gywirdeb gramadegol yn llesol neu'n ddifaol bellach i'r Gymraeg yn y cyd-destun sosio-ieithyddol presennol?"

Start Quote

Sialens fawr y degawdau nesaf fydd cynhyrchu siaradwyr Cymraeg fydd yn dymuno defnyddio'r iaith, waeth beth fydd ei 'safon'”

End Quote Ioan Talfryn

A yw'r cysyniad o 'safon' ieithyddol ddigyfnewid, Blatonaidd bron, yn mynd i rwystro nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg rhag defnyddio'r iaith yn eu bywydau beunyddiol ("Nagyw'n Gwmrâg i'n ddigon da" / "Nagyn ni'n wilia Cwmrâg yn reit fan'yn")?

I mi mae'n fater o beidio â rhoi'r cart o flaen y ceffyl. Mae iaith safonol yn ymgodi'n naturiol mewn cymdeithas sy'n defnyddio'r iaith honno ar gyfer pob agwedd o fywyd.

Problem sylfaenol Y Gymraeg, bellach, (yn wahanol i gyfnod Syr John Morris-Jones) yw ei bod yn crebachu fel iaith gymunedol naturiol, fod mwyafrif ei siaradwyr ifainc bellach yn fwy tebygol o ddod o aelwydydd di-Gymraeg.

Dw i'n meddwl mai sialens fawr y degawdau nesaf fydd cynhyrchu siaradwyr Cymraeg fydd yn dymuno defnyddio'r iaith, waeth beth fydd ei 'safon'. Os digwydd hynny bydd iaith safonol yn ymgodi allan o'r defnydd yn yr un modd ag y cododd Y Gymraeg allan o lwch Y Frythoneg.

A yw hynny'n golygu na ddylem ddysgu Cymraeg 'cywir' yn ein hysgolion? Nac ydyw, ond mae angen i ni dderbyn mai newid wneith Y Gymraeg ac na fydd Cymraeg safonol ysgrifenedig byth yn blodeuo oni bai ein bod ni'n mynd trwy'r broses gwbl angenrheidiol o gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg mewn modd dramatig.

Codi niferoedd defnyddwyr yr iaith fydd yn esgor ar y potensial i hidlo iaith safonol allan o'r trwyth. Mater o flaenoriaethau yw hi, dyna'r cyfan.

A'r pwynt pwysicaf; rhaid i ni beidio â gwneud i ddisgyblion ysgolion ac oedolion sy'n llai hyderus eu Cymraeg deimlo'n annifyr wrth ei defnyddio - neu bydd hi ar ben arnom.

Dafydd Glyn Jones: Rwy'n cytuno â dadansoddiad Ioan mai'r dasg yn awr yw cynnal y niferoedd, a'u cynyddu os oes modd yn y byd, gan roi cyfle i iaith safonol ymgodi eto o'r trwch. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni ddal gafael ar y safonau sydd gennym, ar deithi hanfodol yr iaith. Am hynny mae gwaith John Morris-Jones yn dal yn berthnasol, ac fe fydd eto - fel y dywed Ioan.

Safbwynt John Morris-Jones

John Morris-Jones

"Trafodaeth academaidd, fanwl, bwyllog sydd yn y Welsh Grammar, heb gymaint â hynny o'r 'dweud y drefn' y daethom i'w gysylltu â'i enw. Ceir mwy o hynny yn ei Elementary Welsh Grammar, a oedd eisoes wedi ei gyhoeddi yn 1921; a mwyaf oll yn ei feirniadaethau eisteddfodol - heb anghofio chwaith ei lythyrau a'i ysgrifau yn y wasg ... Mewn amser fe aeth yn fwy pedantig ar rai pethau, yn mynnu 'dyfod' yn hytrach na 'dod', 'beunyddiol' yn hytrach na 'dyddiol', ac yn gwrthod y gair "dynes"! Nid gor-gywir y byddwn i'n galw hyn ond gor-geidwadol, gor-barticlar - ac yn hynny o beth anghywir, fel yr awgrymodd Syr Edward Anwyl yn gynnil a charedig mewn adolygiad ar y Welsh Grammar!" Dafydd Glyn Jones

Beth oedd problem y Gymraeg yn y 1890au, pan ddechreuodd JM-J ar waith ei fywyd?

Ateb: yr oedd y llenorion - nid pawb ohonyn nhw, ond llawer, yn cynnwys llawer o'r beirdd eisteddfodol, cystadleuol, wedi andwyo'r iaith lenyddol. Digwyddodd hyn dros ddwy i dair cenhedlaeth cyn JM-J, sef drwy gydol y rhan fwyaf o Oes Victoria. Digwyddodd (a) drwy fodelu brawddegau ar gystrawen y Saesneg, ynghyd â thuedd yr oes i fod yn rhwysgfawr, yn goeg-urddasol, yn rhodresgar, gan gredu fod hynny rywfodd yn "well"; (b) drwy ddylanwad y Dr. William Owen Pughe, a greodd ramadeg newydd, annilys o'i ben a'i bastwn ei hun a chael gan bobl ei dderbyn.

Yr oedd Cymraeg llafar "y Cymro dirodres", chwedl JM-J, yn dal yn groyw ac iach (gyda 500,000 o siaradwyr uniaith), ac yn cytuno yn y pethau hanfodol â Chymraeg y traddodiad llenyddol.

Yn ei lyfrau gramadeg, yn ei erthyglau, a mwyaf oll yn ei feirniadaethau eisteddfodol, fe fwriodd JM-J ati i atgoffa pobl - ac atgoffa ysgrifenwyr yn anad neb - o'r hyn y byddai Cymro naturiol yn ei ddweud. Ac fe lwyddodd i raddau mawr, gan wneud yn bosibl adfywiad llenyddol yr ugeinfed ganrif.

Yn y cyfamser yr oedd tswnami arall yn powlio tuag atom, a thebyg nad oedd JM-J na neb o'i genhedlaeth wedi ei ragweld. Heddiw, mae natur y broblem yn hollol wahanol; y Gymraeg (fel y dywed Ioan) "yn crebachu fel iaith gymunedol naturiol", dan bwysau a than fygythiad iaith fwyaf llwyddiannus y byd. Ein problem bellach yw nid ein bod yn ddwl, nac yn ddrwg, nac yn ddiog - ond ein bod yn ddwyieithog.

Elin Meredith: Os ydy iaith yn datblygu, onid ydy beth rydych chi'n dal i'w alw yn 'safon' iaith a 'chywirdeb' yn newid hefyd? Felly, beth sydd o'i le ar 'gwisgo côt fi' os mai dyna beth mae nifer o 'Gymry naturiol' yn ei ddweud? Pam fod 'gwisgo fy nghôt' yn ffordd well o'i ddweud? A phwy sy'n penderfynu'r rheolau?

Ioan Talfryn: Dychmygwch fi'n llwyddo i adeiladu peiriant teithio trwy amser a llamu 200 mlynedd i'r dyfodol. A dychmygwch fi wrthi'n clustfeinio ar sgwrs fel yr isod ar un o'r llu o orsafoedd radio sy'n darlledu'n gyfan gwbl yn Gymraeg.

A : A lle mae brawd ti'n byw?

B : Yn Caerdydd. Mae o gyda fflat mawr yna.

A : Ydy e gyda teulu?

B : Ie. Pump plant. Tri merched a dau bechgyn.

A : A beth am gwraig fe? Ydy hi'n dod o Caerdydd?

B : Na. Mae hi'n dod o Canada, ond o teulu Chineg.

A : Sut wnaeth nhw cwrdd?

B : Oedd nhw'n gweithio gyda gilydd i cwmni bioleg yn Ffrainc.

Sut byddwn i'n ymateb? Yn syml, trwy weiddi Hip, hip hwrê neu Haleliwia neu rywbeth tebyg oherwydd byddai'r Gymraeg wedi goroesi. Byddai'r iaith wedi newid o'r hyn a siaredir heddiw ac a siaredid ddoe, wrth gwrs, ond pa ots?

Mae pob newid yn change ond y broblem ydy fod pob newid hefyd yn medru bod yn boenus i rywrai.

Start Quote

... bydd pris i'w dalu ... sef gweld newid sylfaenol yn strwythur yr iaith. ”

End Quote Ioan Talfryn

Byddai'r broses o newid o'r math o Gymraeg a siaredir heddiw i mewn i'r ffurf esblygedig uchod yn achosi loes gwirioneddol i Syr John Morris-Jonesys presennol Cymru (a Chymry traddodiadol, naturiol hefyd) a dw i ddim am wadu hynny. Yn enwedig petai'n digwydd ar garlam.

Mewn chwedlau a mythau o bob math mae unigolion yn aml iawn yn medru ennill rhyw drysor neu'i gilydd (beth bynnag yw hwnnw) dim ond iddyn nhw dalu pris neu daro bargen. Yn fy marn i os yw'r Gymraeg i oroesi yr unig ffordd i hynny ddigwydd yw trwy ddenu'r di-Gymraeg i'w chofleidio. Ond bydd pris i'w dalu am wneud hynny, sef gweld newid sylfaenol yn strwythur yr iaith.

Bydd Y Gymraeg yn rhwym o newid yn sylfaenol, mae hynny'n anochel, gan y bydd mwyafrif ei siaradwyr yn ei siarad i gychwyn fel ail iaith (mae'r un peth yn dechrau digwydd gyda datblygiad Globish, neu Global English, gan fod mwyafrif siaradwyr Saesneg y byd bellach yn ei siarad fel ail iaith). Ei licio hi neu beidio, dyna'r fargen y bydd angen i ni ei tharo er mwyn goroesi ac, yn bersonol, dw i ddim yn credu ei bod hi'n fargen Ffawstaidd.

Ond byddwch yn barod am dwmpathau ar y ffordd - chwedl ein harwyddion ffyrdd - fydd yn golygu y byddwn yn gorfod gyrru gydag un droed ar y sbardun ieithyddol ac un ar y brêc (rhag ypsetio puryddion ieithyddol yn ormodol).

Gyda llaw, digwyddodd newidiadau fel yr hyn a welir yng Nghymraeg dychmygol y dyfodol uchod yn hanes yr iaith Saeneg wrth iddi droi o Anglo Saxon i mewn i'r ffurf symlach a siaredir heddiw. Ai esblygiad neu ddirywiad fu hynny?

Dafydd Glyn Jones: Yn sicr, mae'r safon yn newid, i ganlyn yr arferiad. Ar yr un pryd, greddf ddigon cyfreithlon ac iach ydi honno sydd am atal toriad rhy sydyn mewn iaith.

Start Quote

Colled fawr iawn fyddai bod holl lenyddiaeth ei gorffennol yn mynd yn fyd caeedig mewn cenhedlaeth”

End Quote Dafydd Glyn Jones

Hyd yn oed a bod y Gymraeg yn goroesi, colled fawr iawn fyddai bod holl lenyddiaeth ei gorffennol yn mynd yn fyd caeedig mewn cenhedlaeth. Allwn ni ddychmygu Sais yn caniatáu'r fath sefyllfa?

Am "gwisgo côt fi", mae'n gystrawen hollol Gymraeg, cofiwch! Does dim "wear coat me" cyfatebol yn Saesneg, ac nid o'r Saesneg mae wedi dod. Ryw ddiwrnod, gallaf feddwl y bydd hi'n safonol. Yn y cyfamser, i mi, sy'n ddyn "rhoi 'nghôt amdana", mae'n swnio'n rhyw "Gymraeg babis" neu rhyw Pidgin.

Pwy sy'n penderfynu beth ydi'r rheolau? Defnyddwyr yr iaith, heb os nac onibai. Ond fe gymhlethir y sefyllfa lle bo un iaith dan bwysau mawr beunyddiol oddi wrth iaith arall.

Dydw i erioed wedi credu, nac wedi ystyried am funud, mai gwell fyddai i'r Gymraeg farw yn ei phurdeb na goroesi fel bratiaith. "Cyngor anobaith" yw hynny. Ond rwy'n dal fod gan bob Cymro yr hawl i feddiannu holl adnoddau a holl gyfoeth a holl bosibiliadau'r Gymraeg.

Yr Awduron

  • Mae Ioan Talfryn wedi bod yn dysgu Cymraeg i Oedolion ers 1982. Mae wedi arbenigo ar ddefnyddio Dulliau Dysgu Amgen fel Dad-Awgrymeg a Total Physical Response gan eu defnyddio yn y gyfres deledu Cariad@Iaith ar S4C. Ef yw awdur Dulliau Dysgu Ail Iaith: Eu Hanes a'u Datblygiad ac mae'n Gyfarwyddwr canolfan Popeth Cymraeg ac yn is-gadeirydd y Lozanov International Trainers Association.
  • Mae Dafydd Glyn Jones yn gyn ddarlithydd a Darllenydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor ac yn awdur nifer fawr o astudiaethau gan gynnwys Beirniadaeth John Morris-Jones (Cyfrolau Cenedl - 5, 2012) a'r ddarlith John Morris-Jones a'r Cymro Dirodres (1997). Mae'n gyd olygydd Geiriadur yr Academi gyda'r Dr Bruce Griffiths.

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.