Llyn Cerrig Bach a defodau'r Derwyddon

Plac efydd o Lyn Cerrig Bach Mae rhai o'r eitemau yn dangos gwaith metel Celtaidd cywrain

"Mae'r lle yn berwi o hanes, hanes sy'n ymestyn yn ôl dros filoedd o flynyddoedd ..." meddai Dewi Prysor am Ynys Môn yn y gyfres Darn Bach o Hanes ar S4C .

Trysorau hynod Llyn Cerrig Bach ym Môn gafodd sylw rhaglen gyntaf y gyfres newydd.

Cafodd yr eitemau o Oes yr Haearn eu darganfod ar ddamwain wrth ehangu llain lanio maes awyr Y Fali yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Y gred yw eu bod wedi eu taflu i'r llyn fel offrwm.

Mae'r darnau 2,000 o flynyddoedd oed wedi eu dyddio rhwng yr 2il ganrif Cyn Crist a 60 Oed Crist sydd yn awgrymu bod y llyn wedi datblygu yn lle pwysig i gynnig offrymau i'r duwiau yn ail hanner Oes yr Haearn.

Arwyddocâd

Dyn o'r enw William Owen Roberts o Lanfaelog ddaeth o hyd i'r darnau cyntaf yn 1942 wrth arwain y gwaith yn y Fali.

"Roedd gweithwyr yn adeiladu gwersyll a maes awyr yno ond y broblem oedd bod cymaint o dywod," meddai Alun Gruffydd o Oriel Môn lle mae'r darnau wedi bod yn cael eu harddangos.

"Felly fe wnaethon nhw drïo codi mawn o'r pyllau dŵr cyfagos i'w roi dros y tywod i'w stopio rhag chwythu i mewn i injan yr awyrennau.

Cadwyni Carcharorion o Lyn Cerrig Bach Credir mai ar gyfer dal carcharorion roedd y cadwyni haearn

"Wrth wneud hynny y daethant ar draws casgliad o tua 150 o ddarnau er nad oedd yn amlwg yn syth beth oedd eu harwyddocâd.

"Daeth Syr Cyril Fox o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a datgan mai casgliad o wrthrychau o ddiwedd Oes yr Haearn oeddent, yn cynrychioli rhyw fath o offrwm crefyddol o gyfnod tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn credu'n gryf yn nuwiau'r byd naturiol, ac felly yn lluchio pethau i mewn i'r dŵr fel offrwm iddynt," esbonia Mr Gruffydd.

Does neb yn gwybod pam fod y llyn yma wedi ei ddewis, ond mae archaeolegwyr wedi dyfalu efallai fod rhywbeth pwysig wedi digwydd yma a bod hynny wedi rhoi arwyddocâd i'r safle. Efallai mai ar drothwy ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys Môn y digwyddodd hyn?

Canolfan y Derwyddon?

Cred llawer bod Llyn Cerrig Bach yn ganolfan bwysig ar gyfer defodau'r Derwyddon.

Yn ôl gwefan yr Amgueddfa Genedlaethol: "Mae presenoldeb gwrthrychau fel trwmped, cadwyni a chymaint o offer milwrol yn awgrymu nad arwyddocâd lleol yn unig sydd i'r safle hwn. Mae'r ffaith bod yno gymaint o arfau'n awgrymu eu bod wedi'u hoffrymu naill ai cyn neu ar ôl brwydr."

Disgrifiodd yr hanesydd Rhufeinig, Tacitus, Ynys Môn - neu Mona - fel canolfan i bŵer y derwyddon gan ddisgrifio coedlannau derw cysegredig yr ynys.

Mae darganfyddiadau tebyg i Lyn Cerrig Bach wedi eu gwneud ar draws y cyfandir ac yn dystiolaeth o'r defodau oedd yn gyffredin yn Oes yr Haearn. Wrth ymweld â'r safle heddiw yr unig beth sydd ar ôl o'r llyn yw ardal fechan o ddŵr. Mae plac ar y safle i ddynodi darganfyddiadau'r Ail Ryfel Byd.

Llyn Cerrig Bach heddiw Y llyn fel y mae heddiw

Mae'r rhan fwyaf o'r creiriau y cafwyd hyd iddyn nhw - gan gynnwys cleddyfau, darnau o darian, gwaywffyn, tresi ceffylau, plac efydd a chadwynni i ddal carcharorion - yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ond mae rhai i'w gweld yn Oriel Môn hefyd.

Daeth y casgliad cyfan ar ymweliad ag Oriel Môn yn 2012.

Ymhlith yr eitemau sy'n cael eu cadw'n barhaol Oriel Môn mae blaen gwaywffon, darn o fetel a fuasai wedi bod yn rhan o system olwyn cerbyd rhyfel a genfa neu haearn ffrwyn (bit) ceffyl.

Plesio'r duwiau

Roedd rhai o'r nwyddau metel wedi eu difrodi yn fwriadol. Roedd y cleddyfau haearn wedi eu plygu, gan ei gwneud yn amhosib iddynt gael eu defnyddio eto.

"Nid oedd y Celtiaid yn taflu pethau bob dydd i mewn i'r dŵr - doedd metal ddim mor gyffredin â hynny ac felly mae'r ffaith eu bod yn fodlon colli'r gwrthrychau yma am byth yn arwydd o bwysigrwydd eu crefydd iddynt. Roeddent yn gwneud eu gorau i blesio'r duwiau," meddai Alun Gruffydd.

"Roedd hyn wedi digwydd dros gyfnod o amser achos roedd creiriau yn y llyn sy'n ymddangos yn eithaf cynnar yn Oes yr Haearn, a rhai eraill o gyfnod ychydig mwy diweddar," ychwanegodd.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.