Gareth Bale nôl yn ymarfer gyda Real Madrid

  • 12 Chwefror 2017
bale Image copyright PA
Image caption Mae Cymru'n drydydd yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, gyda'r Gwyddelod ar y brig

Mae Gareth Bale yn ôl yn ymarfer gyda Real Madrid am y tro cyntaf ers anafu'i ffêr.

Dyw'r Cymro heb chwarae ers mis Tachwedd ar ôl cael llawdriniaeth, ond mae ei reolwr Zinedine Zidane wedi dweud ei fod yn disgwyl iddo fod nôl ar y cae ymhen mis.

Byddai hynny'n golygu ei fod yn holliach ar gyfer gêm ragbrofol Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar 24 Mawrth, wrth i'r ddau dîm geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018.

"Diwrnod cyntaf nôl ar y cae ymarfer gyda'r bechgyn. Methu aros i fod nôl nawr," meddai Bale mewn neges ar Twitter ddydd Sul.