Cau ffordd ar ôl canfod dyfais allai fod yn ffrwydrol

  • 11 Ionawr 2017
Dyfais Pontardawe Image copyright Gethin Williams

Cafodd ffordd ei chau ym Mhontardawe ger Abertawe nos Fercher ar ôl i'r heddlu dderbyn galwad ffôn yn dweud bod dyfais ffrwydrol o'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ei chanfod.

Cafodd y ddyfais ei hynysu a bu'n rhaid i nifer o drigolion lleol symud o'u cartrefi.

Gofynnodd yr heddlu i'r cyhoedd gadw draw wrth i arbenigwyr wneud yn siŵr bod y ddyfais yn saff.

Image caption Cafodd y ddyfais ei chario i dafarn leol i ddechrau