Trafod gwella signal ffôn 'annerbyniol' mewn cynhadledd

  • 12 Ionawr 2017
Ffôns symudol mewn ardal wledig
Image caption Mae trigolion mewn sawl ardal wledig yn cwyno am ddiffyg signal

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal i drafod gwella derbyniad ffôn symudol ar draws Cymru ddydd Iau, wrth i weinidog ddweud ei fod yn "annerbyniol" bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU.

Bydd cwmnïau ffôn, cwsmeriaid a gwleidyddion yn cyfarfod yn swyddfa'r rheoleiddiwr Ofcom yng Nghaerdydd, er mwyn trafod sut mae delio â'r mannau lle nad oes signal.

Mae cyfarwyddwr Ofcom wedi dweud nad yw 12% o Gymru yn gallu derbyn signal o gwbl. Yn y DU gyfan, 10% yw'r ffigwr.

Ond yn ôl gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb, mae cysylltiadau symudol yn rhan "hanfodol o fywyd modern ac yn allweddol i lwyddiant economaidd".

Tirwedd Cymru yn her

Dywedodd cyfarwyddwr Ofcom, Rhodri Williams fod tirwedd Cymru yn golygu bod creu isadeiledd yn "anoddach" yma nag yng ngweddill y DU.

Ychwanegodd: "Er hynny mae disgwyliadau cwsmeriaid yng Nghymru yn cynyddu ac ry'n ni i gyd am ddefnyddio ein ffôn lle bynnag ry'n ni.

"Er mwyn i gyfathrebu weithio i bawb, fe ddylai pawb sydd â rhan i chwarae gydweithio er mwyn cael y canlyniad gorau i gwsmeriaid yng Nghymru."

Image copyright Swyddfa Cymru
Image caption Guto Bebb yn addo gweithredu ar dderbyniad ffôn sâl yn ystod y Sioe Amaethyddol fis Gorffennaf diwethaf

Ym mis Rhagfyr, fe alwodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ar Lywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau ar gael mastiau ffôn tal, rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr.

Dywedodd hefyd bod Llywodraeth y DU yn ystyried y syniad o ganiatáu i ddefnyddwyr ffôn mewn ardaloedd o signal gwael i grwydro rhwng gwahanol rwydweithiau.

Cyn y gynhadledd dywedodd Mr Bebb ei fod yn "annerbyniol fod derbyniad signal Cymru yn parhau i lusgo y tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig a hynny mewn cyfnod lle mae angen i fusnesau, teithwyr a phreswylwyr tai ddibynnu ar system signal gref".

Ychwanegodd y byddai'r cyfarfod yn dechrau ar "broses a fydd yn delio â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ar draws Cymru".