Cwpan y Byd: 16 yn fwy o wledydd erbyn 2026

  • 10 Ionawr 2017
GIANNI INFANTINO Image copyright Getty Images
Image caption Mae Llywydd Fifa Gianni Infantino wedi dweud bod rhaid i'r gystadleuaeth fod yn "fwy cynhwysol"

Mae Fifa wedi cadarnhau bydd nifer y gwledydd fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn cynyddu o 32 i 48 tîm erbyn 2026.

Bydd y rowndiau cychwynnol yn cynnwys 16 grŵp o dri thîm, ac fe fydd dau dîm o bob grŵp wedyn yn mynd ymlaen i rownd y 32 olaf.

Mae'r newid yma yn golygu bydd nifer y gemau yn cynyddu o 64 i 80, gyda'r enillwyr yn chwarae saith gêm erbyn diwedd y gystadleuaeth.

'Mwy o gyfle i wledydd llai'

Mae un o gefnogwyr Cymru, Tommie Collins yn falch o weld y newid: "Dwi o blaid y newid. Mae'n rhoi gwell cyfle i wledydd llai i gyrraedd y prif gystadlaethau.

"Mae llwyddiant Cymru yn yr Euros wedi profi fod y gwledydd llai yn gallu cystadlu gyda'r gwledydd mawr ar y cae pêl-droed."

Er y newid fe fydd y gystadleuaeth yn parhau i gael ei chynnal dros 32 o ddiwrnodiau.

Dywedodd llywydd FIFA, Gianni Infantino: "Mae rhaid i'r gystadleuaeth fod fwy cynhwysol. Fe fydd y newid yn gwneud lles i ddatblygiad pêl-droed ar draws y byd."