Cyffur canabis i rai â MS yng Nghymru

  • 15 Awst 2014
Marijuana

Y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw'r cyntaf yn y DU i gynnig cyffur sy'n cynnwys canabis i gleifion barlys ymledol, neu MS.

Chwistrell i'r geg yw Sativex, ac mae wedi ei gymeradwyo gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan.

Fe fydd ar gael ar brescripsiwn i drin gwewyr yn y cyhyrau i gleifion MS sydd heb ymateb yn ffafriol i feddyginiaethau eraill.

Fe ddywedodd y Gymdeithas MS bod Cymru'n arloesi yn y maes drwy gynnig y cyffur.

'Newyddion da'

Fe ddywedodd cyfarwyddwr rhalgen bolisi'r gymdeithas, Sally Hughes: "Gall gwewyr yn y cyhyrau neu stiffrwydd mewn MS fod yn boenus ac anghyfforddus, ac felly mae argaeledd cyffur allai wella'r symptomau hyn yn newyddion da.

Claf yn cymryd Sativex
Sativex yw'r cyffur cyntaf â chanabis ynddo i gael ei gynnig i gleifion MS yn y DU.

"'Dy ni'n croesawu'r penderfyniad, yn enwedig o ystyried canllaw ddrafft NICE fis Ebrill, oedd yn gwrthod cymeradwyo'r cyffur hwn i'r GIG yng Nghymru a Lloegr, wedi asesiad diffygiol ar gost y cyffur.

"Am beth amser, 'dy ni wedi bod yn ymwybodol fod pobl yng Nghymru yn talu'n breifat am y driniaeth drwyddedig hon; fe ddylai'r penderfyniad hwn wneud pethau llawer yn haws iddyn nhw."

Sativex yw'r cyffur cyntaf â chanabis ynddo i gael ei drwyddedu yn y DU.

Meddai Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford: "Wedi i Sativex gael ei gymeradwyo gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, rwy'n falch y gallaf gyhoeddi y bydd y cyffur ar gael gan y Gwasanaeth Iechyg yng Nghymru i'r rhai sydd ei angen."