Taro Deugain: Salem ac Endaf Emlyn

  • 15 Gorffennaf 2014

Mae Siân Owen Ty'n-y-Fawnog yn gymeriad cyfarwydd mewn cartrefi ar hyd a lled Cymru diolch i lun enwog Curnow Vosper. Erbyn hyn mae record hir gafodd ei hysbrydoli gan y darlun yn brysur ennill yr un statws eiconig.

Mae hi'n ddeugain mlynedd ers i Endaf Emlyn gyfansoddi a recordio 'Salem', y record gysyniadol gyntaf yn y Gymraeg.

Un thema sydd i'r record gafodd ei chyhoeddi gan gwmni Sain, ac mae honno yn seiliedig ar y llun enwog gafodd ei baentio yng nghapel Salem ym Meirionnydd yn 1908.

Bu Endaf Emlyn yn dweud wrth BBC Cymru Fyw beth wnaeth ei ysgogi i ddechrau'r prosiect:

Image copyright S4C
Image caption Endaf Emlyn yn gafael yn y record eiconig, Salem

'Hiraeth'

"Yr amcan oedd i ddyfeisio ffurf hir yn y Gymraeg, am Gymru. Er bod yr albwm yn rhan o'r hyn oedd yn digwydd yn rhyngwladol, ac yn gyfoes, fe roedd hefyd yn Gymreig iawn.

"Roeddwn i'n gweld ein bod ni'n symud ymlaen ac yn gadael ffordd o fyw - mae hiraeth yn yr albwm am y cefndir ges i ym Mhwllheli ac yn tristhau wrth ei weld yn mynd ac wrth feddwl beth fyddai'n dŵad yn ei le."

Image caption Salem - Llun enwog Curnow Vosper a'r record gafodd ei hysbrydoli ganddo

"Mae deugain mlynedd wedi mynd heibio ers imi recordio hon. Roedd hi'n ddegawd diflas ar un ystyr, roedd gobeithion y 60au wedi'n siomi ni.

"Doedd pync dim wedi digwydd eto a doedd neb yn gwybod beth oedd y peth nesa. Felly dyna pam es i nôl i gapel yn Sir Feirionnydd i chwilio am ysbrydoliaeth…

"Mae llawer o'r caneuon yn hiraethus - mae hynny i raddau helaeth am fy mod wedi bod, i bob pwrpas, yn alltud yn fy mro.

"Roedd yn rhaid imi symud o Bwllheli pan nad oeddwn i ishio symud ac felly 'dwi wastad wedi teimlo'n hiraethus o'r bobl yma a'r ffordd yna o fyw."

Image copyright S4C
Image caption Endaf gyda'r chwiorydd Catherine ac Elizabeth Richards, aelodau yng nghapel Salem. Y nhw biau siôl bersonol Siân Owen, Ty'n-y-fawnog. Nid hon yr oedd hi'n wisgo yn llun Curnow Vosper.

Salem yn "drobwynt"

"Mi gafodd yr albwm sylw, ac mae'n rhyfeddol i mi ein bod dal yn siarad am y peth heddiw- sydd mwy na thebyg oherwydd bod y llun ei hun mor eiconig.

"Mae'r recordiau o'r oes yna'n 'bodoli' fel petai, yn ein llaw neu ar ein silff. Heddiw mae caneuon yn cael eu llawrlwytho, fel bysa nhw'n cael eu benthyg mewn ffordd.

"Mae'r record (Salem) yn un o'r pethau dwi'n fwyaf balch ohono, yn rhyw fath o garreg filltir gan mai hon oedd y record gysyniadol hir gyntaf yn y Gymraeg.

"Cychwynnais fy ngyrfa recordio yn y Saesneg, felly roedd Salem yn drobwynt gan imi ddod 'nôl at y Gymraeg - doedd na ddim troi yn ôl wedyn."

Image copyright S4C
Image caption Endaf Emlyn yng nghapel Salem

Gallwch chi glywed rhagor o hanes y record hir yn Salem, 20:30 Nos Sadwrn, Gorffennaf 19, S4C.