Wele'n Sefyll

Pan ddechreuais i yn y busnes yma roeddwn yn teithio'n bur aml i Dreorci neu Bontrhydyfen - y ddau le agosaf i Gaerdydd lle'r oedd modd gwneud cyfweliadau "vox-pop" yn Gymraeg. Fe fyddai'r rhan fwyaf o bobol oedd yn medru'r iaith yn oedrannus - ond roedden nhw yna. Os oedd angen ymateb i ryw stori o lawr gwlad felly Treorci neu Bontrhydyfen amdani!

Fel mae'n digwydd fe gododd Carwyn Jones Dreorci yn ei ddatganiad ynghylch y Gymraeg ddoe gan nodi llwyddiant ysgol gyfun cyfrwng Saesneg y dre i gynhyrchu disgyblion sy'n rhugl yn y Gymraeg. Dyma oedd ganddo i ddweud.

"Mae'n amlwg nad yw'r dystysgrif fer wedi gweithio. Gall neb ddweud ein bod ni wedi creu siaradwyr Cymraeg hyderus yn yr ysgolion Saesneg. Mae'n bosib gwneud e oherwydd fi wedi gweld e'n cael ei wneud. Fi wedi bod i Ysgol Treorci, ysgol sydd yn ysgol Saesneg a thamaid bach o Gymraeg ac wedi siarad â phlant un ar bymtheg oed a rheiny'n rhugl - yr un mor rhugl â phlant yr ysgolion Cymraeg. Yr her yw bod y gwaith da yna yn cael ei rolio mas dros Gymru gyfan."

Mae adolygiad ESTYN o'r ysgol yn 2012 yn cadarnhau honiad Carwyn Jones - er nad oedd Cymreictod yr ysgol yn ddigon i ddarbwyllo'r arolygwyr i gyhoeddi eu hadroddiad yn ddwyieithog! Dyma oedd gan yr arolygwyr i ddweud.

"Pupils' performance in Welsh second language at key stage 3 is outstanding. Overthe past three years it has been in the top quarter of similar schools. In Welsh, in keystage 4 a large majority of pupils make excellent progress... Provision for promoting Welsh within the school is sector leading."

Ond mae 'na ffaith fach ddiddorol ynghylch yr ysgol yn cael ei chyfeirio ati yn yr adroddiad. Mae 9% o ddisgyblion yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg wrth gyrraedd yr ysgol - hynny yw, mae canran nid ansylweddol o ddisgyblion yr ysgol uwchradd wedi mynychu ysgolion cynradd Cymraeg.

Dyw e dim yn anodd deall pam y byddai rhai o rieni blaenau Rhondda Fawr yn dewis trywydd o'r fath i'w plant. Mae'r ysgol uwchradd Gymraeg sy'n gwasanaethu'r ardal sef Ysgol Gyfun y Cymmer yn dipyn o daith i lawr y cwm. Mae Ysgol Treorci, ar y llaw arall, yn gyfleus ac yn ôl mesuriadau Estyn mae'n un o'r ysgolion gorau yng Nghymru. Yn wir Ysgol Gyfun Treorci oedd yr ysgol uwchradd gyntaf yng Nghymru i gael ei dyfarnu'n "rhagorol" ym mhob un maes sy'n cael ei fesur gan Estyn.

Mae profiad Ysgol Treorci yn codi ambell i gwestiwn diddorol.

Y cwestiwn cyntaf yw ydy llwyddiant yr ysgol wrth ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn rhannol deillio o'r ffaith bod rhai o'r plant yn rhugl o'r cychwyn?

Gellir gofyn hefyd a fyddai gwella safonau dysgu Cymraeg ail iaith drwyddi draw yn darbwyllo rhieni mewn ardaloedd eraill i ddewis addysg uwchradd cyfrwng Saesneg i'w plant gan lesteirio twf y sector uwchradd Gymraeg?

Un cwestiwn olaf felly, ai peth da neu beth drwg i'r Gymraeg fyddai cael rhagor o ysgolion tebyg i Ysgol Gyfun Treorci? Peth da, dybiwn i - ond fe allai 'na fod pris i'w dalu yn y sector uwchradd Gymraeg.