Y Gymraeg: Cyflwyno gweledigaeth

Carwyn Jones AM

Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gosod ei weledigaeth am y Gymraeg mewn datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae disgwyl iddo ddatgelu cynllun a ffocws y llywodraeth am y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Mr Jones mai un o'r blaenoriaethau fydd sicrhau fod y Gymraeg yn parhau i gael ei siarad fel iaith gymunedol.

Ar ôl canlyniadau siomedig y cyfrifiad diwethaf fe wnaeth llywodraeth Cymru sefydlu proses ymgynghori - y Gynhadledd Fawr - ynglŷn â sut i atal dirywiad yr iaith a sut i'w chryfhau.

Yn ôl cyfrifiad 2011, 19% o drigolion Cymru wnaeth gofnodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg.

Roedd nifer y siaradwyr wedi gostwng 20,000 ers 2001.

Roedd yna ostyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol, gyda'r cwymp mwyaf yn Sir Gaerfyrddin.

'Diffyg Gweithredu'

Bellach mae 43.9% yno yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu â 50.3% yn 2001.

Dim ond yng Ngwynedd ac Ynys Môn y mae dros hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Alun Ffred Jones, cyn weinidog llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg, gyhuddo'r llywodraeth bresennol o "ddiffyg gweithredu dros yr iaith Gymraeg".

Dywedodd Mr Jones, AC Plaid Cymru dros Arfon, nad oedd y Prif Weinidog a'r llywodraeth wedi gweithredu'r ddeddf iaith.

Ond wrth ymateb i'r feirniadaeth ar y pryd dywedodd Carwyn Jones: "Ers canlyniadau'r cyfrifiad, rydyn ni wedi cymryd nifer o gamau pwysig i amddiffyn yr iaith, er enghraifft cyhoeddi safonau drafft newydd, cynlluniau addysg a chanllawiau cynllunio.

"Byddai ymateb dros nos i'r Gynhadledd Fawr wedi bod yn beth ffôl, yn enwedig gan fod nifer o adolygiadau o bolisïau yn ymwneud â'r Gymraeg wedi bod ar waith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"O fewn yr wythnosau nesaf, fe fyddaf i'n cyhoeddi datganiad polisi cynhwysfawr - sy'n tynnu at ei gilydd drafodaethau'r Gynhadledd Fawr yn ogystal â'r adolygiadau polisi."

Ddoe fe wnaeth nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith gynnal protest y tu allan i'r Senedd wrth aros am ddatganiad y prif weinidog.

Ymhlith pethau eraill, maen nhw'n galw am newidiadau ym meysydd cynllunio ac addysg er mwyn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg.

Straeon perthnasol