Pawb a'i Farn

Chwi welsoch, mae'n siŵr, fod y BBC wedi cyhoeddi canlyniad arolwg bar gan ICM wnaeth ofyn ymhlith pethau eraill sut y byddai'r rhai a holwyd yn pleidleisio mewn etholiad Cynulliad. Mae'n ffaith fach ddifyr mai hwn yw'r tro cyntaf erioed i BBC Cymru gynnwys cwestiwn o'r fath mewn arolwg barn.

Yn ein harolwg Gŵyl Ddewi eleni holwyd ynghylch bwriadau pleidleisio San Steffan. Roedd y cwestiwn hwnnw wedi ei ofyn o'r blaen. Yn wir roedd e'n cael ei ofyn yn gyson - tan 1985. Yn y flwyddyn honno fe ddaeth orchymyn oddi uchod yn gwahardd gofyn cwestiynau o'r fath yn arolygon y BBC.

Dyw newidiadau felly ddim yn digwydd yn ddireswm a'r rheswm bryd hynny oedd yr hyn wnaeth ddigwydd yn is-etholiad Brycheiniog a Maesyfed.

Mae'n debyg bod hwnnw'n un o'r is-etholiadau mwyaf difyr yn hanes gwleidyddiaeth Cymru. Cymaint felly nes i nofel arswyd gyfan gael ei seilio ar yr ornest!

Gornest dair ffordd oedd yr is-etholiad gyda Llafur, y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr ill tri yn gobeithio ennill ac yn ceisio rhoi gwasgfa dactegol ar eu gwrthwynebwyr. Ychydig ddyddiau cyn yr etholiad cyhoeddwyd canlyniad arolwg barn a gomisiynwyd gan Newsnight - neu yn hytrach arolwg a drefnwyd gan Newsnight gan ddefnyddio myfyrwyr coleg i wneud yr holi.

Roedd 'na feirniadaeth lem o'r arolwg gyda nifer yn amau'r fethodoleg ac eraill yn hawlio ei fod wedi dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Dydw i ddim am ddweud pwy wnaeth elwa ond os ydw i'n sibrwd y geiriau 'bar-charts' a 'Winning Here' fe gewch chi syniad go dda! Doedd na ddim rhagor o arolygon i fod am y chwarter canrif nesaf.

Ar ôl llawer o drafod mae pethau wedi newid ac mewn ardaloedd ac etholiadau lle nad oes llawer o arolygon yn cael eu cynnal fe ganiateir i ni gomisiynu rhai ar ran y BBC.

Fel mae'n digwydd mae'r sefyllfa arolygon barn yng Nghymru wedi gwella yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda lansiad y Faromedr Wleidyddol Gymreig - arolwg rheolaidd gan YouGov ar ran Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ac ITV. Mae cymharu canfyddiadau dau gwmni gwahanol sy'n defnyddio methodoleg wahanol yn fodd i ni allu fod yn fwy hyderus ynghylch rhai o'r tueddiadau y mae YouGov wedi eu canfod.

Mewn sawl ystyr mae tueddiadau yn bwysigach na'r 'snap-shot' wrth ystyried canlyniadau arolygon barn ac mae ICM yn cadarnhau nifer o dueddiadau y mae YouGov wedi eu cofnodi dros y flwyddyn ddiwethaf. Os unrhyw beth mae ICM yn awgrymu bod YouGov wedi bod yn braidd yn geidwadol wrth fesur y dirywiad yn y bleidlais Lafur a'r cynnydd graddol yng nghefnogaeth Plaid Cymru.

Sut mae esbonio'r tueddiadau hynny? Dyma i chi un esboniad posib. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gweld ymosodiadau ar ei record nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn llwyr ar goll wrth geisio ymateb i haeriadau Ann Clwyd a chyhuddo'r Ceidwadwyr o'r 'war on Wales' bondigrybwyll oedd yr ymateb i'r ymosodiadau gan David Cameron, Jeremy Hunt a'u tebyg.

Mae'n ymddangos bod yr ymosodiadau cyson wedi llwyddo i niweidio'r teflon gwleidyddol oedd yn nodweddu llywodraethau Rhodri Morgan a Carwyn Jones gyhyd - ond nid y Torïaid sydd wedi elwa ond Plaid Cymru. Hynny yw, mae'n ymddangos bod canran sylweddol o bleidleiswyr chwith-ganol wedi eu dadrithio ynghylch perfformiad Llywodraeth Cymru ac mae pobl felly yn troi at Blaid Cymru wrth chwilio am gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

Ers peth amser mae panjandryms Plaid Cymru wedi poeni y byddai ymosodiadau'r Ceidwadwyr ar Lywodraeth Cymru yn troi'r etholiad Cynulliad nesaf yn ornest chwith-dde rhwng Llafur a'r Torïaid. Ymddengys bellach fod yr ofn yna'n ddi-sail a bod y Ceidwadwyr wedi gwneud ffafr fawr i'r cenedlaetholwyr.