Cwpan y Byd: Fuoch chi 'rioed yn Rio?

Mae Jonathan Francis Roberts, sy'n wreiddiol o'r Bala wedi byw a gweithio yn Rio de Janeiro ers dros ugain mlynedd. Mae o wedi bod yn son am y cynnwrf yn y ddinas ar ddechrau achlysur mwya'r byd pêl droed - cystadleuaeth Cwpan y Byd:

Dathlu Rio
Does dim amheuaeth pa wlad mae Jonathan Francis Roberts a'i gydweithwyr yn Rio yn ei gefnogi!

Newydd ddechrau mae'r cynnwrf. Pawb yn gadael eu gwaith yn gynnar. Hir yn cychwyn oedd y cynnwrf, gyda'r holl brotestio, streiciau ac yn y blaen. Mae hi dal yn gymharol dawel yma - tawel, hynny ydi, i gymharu efo cystadlaethau Cwpan y Byd y gorffennol (2010, 2006, 2002 ac 1998. Mi gyrhaeddais i Brasil yn 1996).

Brasil Protest
Nid pawb ym Mrasil sy'n gwirioni ar Gwpan y Byd

Ydi popeth yn barod? Pwy a wyr (wel, nag ydi, i ddweud y gwir). Oes na ormod o arian wedi cael ei wario? Oes. Fydd na waddol parhaol i'r wlad? Go brin. Ydi o'n deg fod tocyn i'r gemau yn ddrytach na chyflog mis rhan fawr o'r boblogaeth? A beth am FIFA?

Ond yn y diwedd, yn Brasil ydan ni. Cartref ysbrydol peldroed. Mae'n wir fod pawb wedi cael llond bol ar y trais, a'r dwyn, a'r tlodi , ond dyma ni ar gychwyn y bencampwriaeth. Bola pra frent" (yn llythrennol: pasiwch y bel ymlaen) yw'r dywediad yma, anghofiwch y problemau, mae'n amser sythu cefn, canolbwyntio ar y gêm (bywyd) ag ymlaen a ni. VIVA BRASIL!

dathlu
Golygfa liwgar o seremoni agoriadol Cwpan y Byd yn São Paulo