Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

  • 13 Mehefin 2014
Michael Gove
Image caption Mae Mr Gove am i werthoedd Prydeinig cael eu dysgu yn ysgolion Lloegr

Yn Golwg, mae Dylan Iorwerth yn edrych ymlaen yn arw i weld pa fath o werthoedd Prydeinig fydd yn cael eu dysgu yn ysgolion Lloegr o hyn ymlaen.

O gofio'r anghydfod rhwng Mr Gove a Mrs May mae'n siŵr, meddai, y bydd yna sylw go helaeth i'r egwyddor o geisio tanseilio cydweithwyr a rhoi cyllell yn y cefn.

Mi fydd gwersi economeg, mae'n siŵr, wedi eu cyflwyno'n llwyr i'r syniad mai tegwch yw gwneud i'r llawer bluo nyth yr ychydig, ac efallai y bydd yna rywbeth am ddweud celwydd er mwyn i filwyr gael colli eu gwaed er eich mwyn.

Mi fydd hi'n ddiddorol, meddai, gweld a fydd y Gwerthoedd Prydeinig hefyd yn cynnwys dysgu am boblogaethau brodorol eraill yr ynysoedd yma ac am ieithoedd a diwylliannau oedd yma ymhell cyn y Saesneg a'i diwylliant hithau.

Gwerthoedd? Peidiwch â sôn.

Gorliwio a chamliwio

Tybed gaiff plant Lloegr ddysgu am Eisteddfod yr Urdd? Wel, nid pob agwedd ohoni os caiff Elis Dafydd ei ffordd.

Ar flog Golwg 360, mae Elis yn sôn iddo edrych ar un o'r cystadlaethau llefaru i bartïon yn Eisteddfod y Bala.

Dyna ichi brofiad poenus, meddai. Gwrando arnyn nhw'n gorliwio a chamliwio ac edrych arnyn nhw'n goractio ac yn gwneud y stumiau mwyaf gwallgo'.

Dydw i ddim yn gwadu, meddai, fod adrodd barddoniaeth mewn cystadlaethau'n rhan o'n traddodiad ni, ond nid dal gafael ar bopeth yn bendifaddau ydi pwrpas traddodiad, ond ymhyfrydu yn nhras a llinach ein diwylliant cyfoes ni.

Ac os nad ydi rhyw draddodiad arbennig yn cyfrannu dim at gyfoeth y diwylliant cyfoes hwnnw, yna waeth iddo farw ddim.

Ac mae ganddo rybudd a chyngor i'r llefarwyr: dylai'r ffordd mae pobl yn mynd ati i lefaru mewn cystadlaethau - a bod yn feirniaid ar gystadlaethau o'r fath - newid cyn i'r peth fynd yn fwy amherthnasol a chwerthinllyd nag ydi o'n barod.

Mynd ar nerfau pobl Gymraeg

Image caption Tom Jones: hoff ganwr pawb yng Nghymru?

Does 'na fawr o amheuaeth y byddai Elis yn gosod llefaru Eisteddfodol yn uchel ar restr sydd wedi'i chreu ar wefan Ffrwti o'r pethau sy'n mynd ar nerfau pobl Gymraeg.

Ac eithrio'r pethau amlwg fel diffyg parch at yr iaith a chyfieithu gwael, mae Lois Gwenllian yn nodi pethau fel pobl yn cymryd yn ganiataol mai eich hoff ganwr neu fand yw un o'r canlynol: Tom Jones, Stereophonics neu Manic Street Preachers - neu Catatonia os ydych chi'n lwcus, a hefyd y gred gyffredin ymhlith pobl o du hwnt i glawdd Offa mai un acen yn unig sydd yna yng Nghymru - sef acen cymoedd y de.

Mae nifer o gyfranwyr eraill wedi ymuno yn yr hwyl hefyd: geiriau sy'n poeni James W - yn enwedig nomineiddio, ffocysu, consentreiddio.

Ie, unwaith eto, geiriau gwneud Cymraeg lle does 'na ddim angen.

Cwis Datganoli

Image caption Jane Hutt: ei harddull llefaru ddim yn plesio

Gyda Radio Cymru'n cynnal wythnos o ddathlu 15 mlynedd y Cynulliad Cenedlaethol, draw ar wefan Cymru Fyw mae cyfle i chi ddangos faint da chi'n ei gofio o'r degawd a hanner diwethaf mewn Cwis Datganoli arbennig.

Mae'n werth cael golwg arno, pe na bai ond i fwynhau disgrifiad gohebydd y Western Mail o un o weinidogion y Cynulliad yn 2002.

Yn ôl Mr Shipton, wrth esbonio newidiadau i'r gwasanaeth iechyd, roedd Jane Hutt yn swnio fel 'robot yn dynwared Glenda Jackson yn chwarae'r frenhines Victoria'.

Na, doedd ei harddull llefaru hithau ddim yn plesio chwaith.

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.