Aled Sion yn gapten ar gyfer Glasgow

Aled Sion Davies
Image caption Mae gan Aled Sion Davies yr agwedd gywir ar gyfer arwain, yn ôl Tîm Cymru

Mae'r athletwr Paralympaidd Aled Sion Davies wedi cael ei ddewis i fod yn gapten ar Gymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.

Mi fydd Davies, 23 yn cystadlu yng nghamp y ddisgen yn y gemau yn Glasgow dros yr haf.

"Mae'n anrhydedd enfawr. Rwy'n Cymro balch fel y mae hi ac mae bod yn rhan o'r tîm Cymru yma wedi bod yn brofiad mor arbennig," meddai Davies.

"I wybod mai fi sy'n arwain, mae hynny hyd yn oed yn well ac rwy'n edrych ymlaen at fynd fyny i Glasgow ac yn gobeithio y gall bawb arall fy nilyn i a mynd am aur.

Roedd Davies yn un o sêr Tîm GB yn gemau Paralympaidd Llundain yn 2012 gan ennill efydd yn y gystadleuaeth ergyd F42/44 cyn cael aur yn y ddisgen.

Image copyright Tîm Cymru
Image caption Mae 230 o athletwyr wedi eu dewis i gynrychioli Cymru mewn 17 camp wahanol

Ym Mhencamprwiaeth Athletau'r Byd yr IPC ym mis Gorffennaf fe osododd record byd yn y gystadleuaeth ergyd F42 gyda phelter o 14.71 medr.

Roedd wedi gosod record byd ar gyfer y ddisgen F42 ym mis Mai hefyd mewn cystadleuaeth yn yr Eidal, gan ychwanegu .84 medr i record byd 12 mlynedd Fanie Lombaard.

Dywedodd arweinydd y tîm Brian Davies: "Yn ogystal â bod yn gystadleuydd gwych mae Aled hefyd yn gymeriad cyfeillgar a hawdd i wneud ag e.

"Mae wedi casglu llawer o brofiad mewn digwyddiadau chwaraeon mawr dros y blynyddoedd diwethaf a chafodd ei hun dan y dan y llifoleuadau yn dilyn ei fuddugoliaethau Paralympaidd sy'n golygu y bydd yn gallu rhoi llawer o gyngor gwerthfawr i aelodau eraill o'r tîm.

"Mae gennym ni bob ffydd y bydd yn gapten tîm campus."