Enw newydd i Barc yr Arfau

  • 19 Mai 2014
Parc yr Arfau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Nid Parc yr Arfau bellach ond Parc yr Arfau BT Sport

Mae stadiwm rhanbarth rygbi'r Gleision wedi cael ei ail enwi fel Parc yr Arfau BT Sport fel rhan o gytundeb hyrwyddo'r pedwar rhanbarth.

Bydd y cytundeb hefyd yn golygu y bydd logo ac enw'r cwmni ar grysau'r Gweilch, Scarlets a'r Dreigiau.

Doedd dim cytundeb i hyrwyddo crysau'r Gleision ar gael ar gyfer tymor 2014-15.

Fe fydd y cytundeb yn para am dri thymor tan 2018, a dywedodd pennaeth dros dro'r corff sy'n cynrychioli'r rhanbarthau, Regional Rugby Wales (RRW), Mark Davies:

"Mae'n wych cael rhyw newyddion positif i rygbi rhanbarthol."

Mae'r cytundeb hyrwyddo hefyd yn cynnwys nifer o gynlluniau datblygu cymunedol. Fe fydd enw a logo BT ar grysau cartref ac oddi cartref y Scarlets a'r Dreigiau, ac ar grysau cartref y Gweilch yn unig.

Mr Davies yw prif weithredwr y Scarlets yn ogystal, ac ychwanegodd: "Mae hwn yn arwydd o hyder yn rhanbarthau Cymru ac rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio ochr yn ochr â BT - brand sy'n llwyddiannus yn fyd eang sydd wedi gweld gwerth mewn buddsoddi'n sylweddol yn ein busnesau rhanbarthol."

Dywedodd cyfarwyddwr BT yng Nghymru, Ann Beynon: "Rydym yn parchu ac am gefnogi angerdd cymunedau Cymru sy'n deall eu rygbi, ac rydym yn cymeradwyo'r gwaith positif a blaengar sy'n cael ei wneud gan RRW a'r rhai sy'n goruchwylio'r gêm o fewn y pedwar rhanbarth yng Nghymru."

Straeon perthnasol