Cyfrwng i'r Cymry

  • 22 Mai 2014

Dylem gydnabod pwysigrwydd gwasanaeth newydd BBC Cymru Fyw o'r eiliad cyntaf.

Cofiaf yn glir achlysur lansio Radio Cymru yn 1977, ac ymddangosiad gorfoleddus S4C yn 1982, sef dwy garreg filltir enfawr yn hanes yr iaith. Gellir dadlau bod cyhoeddi Cymru Fyw yr un mor bwysig â'r digwyddiadau mawr hynny.

Bu Cymry Cymraeg ar hyd y blynyddoedd yn dilyn newyddion (yn y wasg, ar radio a theledu) yn frwd. Gwelwyd cynulleidfa arbennig o uchel yn dilyn Newyddion 7 yn ystod degawd cyntaf S4C, a bu graen arbennig ar wasanaeth newyddion Radio Cymru. Nodir yn gyson bod canran sylweddol iawn o wylwyr 'Wales Today' ar BBC One yn Gymry Cymraeg.

Newidiadau i arferion gwylio a gwrando

Nid yw'n bosib i unrhyw un amau diddordeb Cymry Cymraeg yn y byd mawr o'u cwmpas. Ond beth sydd wedi digwydd i'w harferion gwylio a gwrando yn y cyfamser? Yn anffodus, yng nghyd-destun newyddion teledu Cymraeg yn arbennig, profwyd dirywiad poenus yn ystod degawdau 1990-2000-2010, er bod grwpiau o newyddiadurwyr a chyflwynwyr abl wedi bod wrthi gydol y cyfnod.

Dechreuodd y problemau ar ddiwedd y 1980au pan newidiodd BBC Cymru y drefn o ran cymeriad rhaglenni newyddion S4C. Diflannodd Newyddion 7 (er bod y cyfuniad o newyddion lleol, cenedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol yn boblogaidd) ac yn ei le cafwyd gwasanaeth ar y cyd o Fangor ac Abertawe. Fe aed yn ôl yn y pen draw i Gaerdydd, ond roedd pethau wedi newid er gwaeth.

Roedd hyd yn oed mwy o fai ar S4C. Gwrthodai'r rheolwyr gydnabod pwysigrwydd newyddion yn amserlen y sianel. Gwthiwyd rhaglenni newyddion i'r ymylon, er bod digon o dystiolaeth bod newyddion yn denu gwylwyr a'u cadw. Yr oedd y berthynas anghynnes rhwng BBC Cymru ac S4C yn ffactor arall. Cyfnod diflas oedd hwn ac fe wnaed niwed difrifol i ddelwedd y gwasanaeth newyddion teledu.

Yr angen am newid

Mae'r berthynas gyfoes rhwng BBC Cymru ac S4C yn well o lawer (mae'r fframwaith ariannu wedi newid yn y cyfamser) a bu lawnsiad Newyddion ar ei newydd wedd yn 2013 yn llwyddiant diamheuol. Y nod yw hybu maint y gynulleidfa a chadw'r gwasanaeth newyddion wrth galon yr amserlen.

Ac felly dylid ystyried ymddangosiad Cymru Fyw yn y cyd-destun hwnnw, sef yr angen i weddnewid y ddarpariaeth ar gyfer Cymry Cymraeg yng Nghymru a thu draw i Glawdd Offa. Y mae cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ar y we yn hanfodol, sef cyfrwng i gasglu ffynonellau newyddion amrywiol a chyfeirio defnyddwyr at ddeunydd diddorol.

Cyfrwng salw yw Twitter ar lawer cyfrif, ond mae'n ddefnyddiol iawn o ran hybu ymwybyddiaeth. Gall defnyddwyr Cymru Fyw rannu eu hoff ddeunydd a dod â chynulleidfa newydd i fyd newyddion Cymraeg. Mae'r posibiliadau yn rhai cyffrous iawn.

Yr unig bryder sydd gen i yw bod gormod yn disgyn ar ysgwyddau'r BBC yng Nghymru. Nid peth iach yw hynny. Mae toriadau ariannol ITV wedi niweidio cyfraniad y sianel honno i newyddiaduraeth yng Nghymru (er bod Adrian Masters yn gwneud gwaith da ym myd gwleidyddiaeth). Ac mae methiant ein papurau newydd i gadw darllenwyr yn creu gwendid ehangach ym myd cyfryngau torfol Cymru.

Arwydd o gryfder, yn sicr, yw ymddangosiad Cymru Fyw. Ond arwydd hefyd bod BBC Cymru yn awyddus i wella'r arlwy ar gyfer yr holl Gymry Cymraeg sy'n talu am drwydded yn flynyddol.

Mae'n ddatblygiad arbennig iawn. Byddaf innau'n sicr yn ei ddefnyddio bob dydd. Gobeithio y bydd miloedd o'm cyd-Gymry yn gwneud yr un peth.