Diffoddwyr yn ymchwilio i dân ar fferm yn Sir Fynwy

Fire damaged farm buildings at Penallt, Monmouthshire
Image caption Cafodd adeiladau ar y ffer eu difrodi gan y tân fore Sadwrn

Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i dân ddifrodi nifer o adeiladau ar fferm yn sir Fynwy.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r fferm ym Mhenallt ger Mynwy fore Sadwrn.

Bu criwiau o Fynwy, Cas-gwent a Chwmbrân ar y safle a hefyd cerbyd cludo dŵr o Rhosan-ar-Wy sy'n rhan o Wasanaeth Tan ac Achub Sir Henffordd a Chaerwrangon.

Cafodd ysgubor ei losg yn ulw.

Dywedodd Andy Davidson o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae yna ymchwiliad i achos y tân, ond nid ydym yn trin y digwyddiad fel un amheus. "