Cerrig coffa ar gyfer 39 carcharor y Rhyfel Byd Cyntaf

Cafodd nifer eu carcharu wedi Brwydr Lys
Image caption Cafodd nifer eu carcharu wedi Brwydr Lys

Mae cerrig coffa wedi eu codi mewn mynwent yng Ngwlad Pwyl oherwydd y carcharorion rhyfel fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu farw 39 ohonyn nhw o Brydain rhwng Awst a Rhagfyr 1918.

Roedd Cymry yn eu plith, Albert Arthur Cockin o Gaerdydd, William Hugh o Benygraig, Morgannwg, Gordon William Jones o Raeadr yn Sir Fynwy, David William Jones o Benmorfa, Porthmadog, a Clifford William Williams o Abertawe.

Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad sy'n gyfrifol am y fynwent yn Lidzbark Warminski.

Cafodd y carcharorion eu claddu yn yr Almaen mewn beddau mawr ond yn y 1930au sylweddolodd y comisiwn nad oedd y 39 o ddynion o Brydain ymhlith y cyrff.

Yn y 1960au cafodd y dynion eu coffáu mewn mynwent fach ac mae'r mudiad wedi cael caniatâd i adeiladu cerrig coffa.

Amodau gwael

Mewn gwersyll yn Heilsberg yn nwyrain yr Almaen y bu farw'r dynion.

Roedd amodau'r gwersyll yn wael iawn ac roedd rhaid i'r dynion weithio'n galed yn ystod eu cyfnod yna.

Roedd glanweithdra hefyd yn broblem fawr a nifer yn marw o afiechydon oedd yn lledaenu.

Problem arall oedd y diffyg bwyd gan fod y Fyddin Almaenig a'r llynges yn rhoi blaenoriaeth i'r boblogaeth yn hytrach na'r carcharorion rhyfel.

Mae'r Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn dweud mai o Rwsia a Rwmania oedd y mwyafrif o garcharorion ond bod nifer o filwyr Prydeinig.

Roedd parseli bwyd yn cael eu hanfon at y dynion gan berthnasau a mudiadau fel y Groes Goch a hyn yn allweddol er mwyn gwneud yn siwr bod rhai ddim yn marw o newyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.