Dedfryd 12 mlynedd am droseddau rhyw

  • 13 Mai 2014
Martyn Tucker
Cafodd Martyn Tucker ei ddedfrydu i 12 mlynedd dan glo

Mae cyn arweinydd grŵp sgowtiaid wedi ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar wedi iddo gyfaddef dros 20 o droseddau rhyw difrifol.

Cyfaddefodd Martyn Tucker, 67 o Gaer, iddo gyflawni 26 o droseddau rhyw difrifol yn erbyn bechgyn yn y 1970au.

Digwyddodd y troseddau yng ngogledd Cymru, Gorllewin Mercia, Sir Caer a Bryste.

Bydd yn rhaid i Tucker gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei fywyd.

Wrth ymateb i'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Neil Harrison, o Uned Droseddau Wrecsam, bod Tucker wedi manteiso ar bobl ifanc oedd wedi rhoi ffydd ynddo fel arweinydd grŵp sgowtiaid.

"Roedd Tucker wedi cam-drin y ffydd yma a drwy wneud hynny mae wedi difetha eu plentyndod a'u gadael gyda'r atgofion y maen nhw wedi gorfod byw hefo ers hynny."