Adroddiad: methiannau gofal dau o ysbytai de Cymru

  • 13 Mai 2014
Ysbyty Tywysoges Cymru
Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont yw un o'r ddau ysbyty lle mae'r adroddiad yn dweud y mae methiannau

Mae pryderon difrifol am ddiogelwch a safon gofal i gleifion mewn dau ysbyty yn ne Cymru wedi eu hamlygu gan adroddiad newydd.

Yn ôl yr adroddiad, mae rhai agweddau o ofal i bobl fregus a phobl hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ac ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn "annerbyniol ac mae angen delio gyda nhw fel mater o frys".

Ond mae'r adroddiad yn ychwanegu nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - sy'n gyfrifol am yr ysbytai - "erioed wedi bod yn 'achos arall fel Stafford'".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford ei fod wedi cael braw o ddarllen yr adroddiad, a'i fod yn "benderfynol" na fyddai unrhyw beth tebyg yn digwydd eto.

Pryder am ofal

Mae'r adroddiad annibynnol yn gwneud nifer o argymhellion i'r bwrdd iechyd ac i lywodraeth Cymru.

Cafodd yr adroddiad ei arwain gan yr Athro June Andrews o Brifysgol Stirling. Cafodd ei gomisiynu gan lywodraeth Cymru y llynedd wedi i deuluoedd cleifion godi pryderon am safonau gofal cleifion.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio ynghylch:

  • ymddygiad ac arfer amrywiol neu wael yng ngofal pobl fregus a hŷn;
  • diffygion mewn elfennau o ddiwylliant gofal wedi ei seilio ar barch priodol a chysylltiad cleifion a pherthnasau;
  • cyfyngiadau annerbyniol mewn gwasanaethau 24/7 yn arwain at oedi di angen i driniaeth a gofal;
  • diffyg staff sydd yn gymwys, wedi eu haddysgu ac yn frwdfrydig, yn enwedig gyda'r nos;
  • rheolaeth cwynion sy'n araf ac yn wrthwynebol;
  • diffyg cysylltiad rhwng staff rheng-flaen a rheolwyr a dryswch dros gyfrifoldebau arweinyddiaeth;
  • problemau gyda strategaethau trefniadol ar ansawdd a diogelwch cleifion, datblygiad capasiti a chynllunio'r gweithlu.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod rhai staff yn teimlo nad oedd ganddyn nhw'r cyfleusterau i ddelio gydag anghenion cleifion sydd â dementia.

Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud na ddylai'r bwrdd iechyd gael ei ystyried yn "achos arall fel Stafford" - cyfeiriad at sgandal esgeulustod yn Ysbyty Stafford yn Lloegr.

Dywed yr awduron nad ydyn nhw'n credu bod angen diswyddiadau.

"Mae'n bwysig i wneud yn glir nad ydy'r pryderon yma o faint fyddai'n gwarantu gweithredu gan y Gweinidog ynglŷn ag arweinyddiaeth bresennol y bwrdd."

'Braw'

Mewn datganiad ysgrifenedig at aelodau cynulliad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford ei fod wedi cael braw at ganfyddiadau'r adroddiad, a'i fod am weld yr argymhellion - rhywbeth mae'r llywodraeth yn eu derbyn yn llawn - yn cael eu gweithredu ar unwaith.

"Nid yw'r adroddiad yma yn un hawdd i'w ddarllen; bydd yn enwedig o anodd i bawb sy'n rhan o wasanaethau gofal hyn yn yr ysbytai yma," meddai.

"Bydd canfyddiadau'r tîm arolygu yn anodd eu darllen i bawb sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n gwneud eu gorau i gleifion wrth roi'r safonau gorau o ofal.

"Mae gan bob claf yr hawl i ddisgwyl hynny."

Ychwanegodd Mr Drakeford y byddai'r adroddiad yn bryder i gleifion a'u teuluoedd hefyd.

"Fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru hoffwn gynnig fy ymddiheuriad agored i'r unigolion a'u teuluoedd sydd wedi profi gofal nad oedd yn cyrraedd y safon fyddai'n cael ei ddisgwyl wrth gael triniaeth yn yr ysbytai yma.

"Rydw i wedi cael braw o ddarllen yr adroddiad yma.

"Rydw i'n benderfynol na fydd unrhyw beth tebyg yn cael ei ganiatáu ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg nac unman arall yng Nghymru yn y dyfodol."

'Gwbl annerbynniol'

Mewn ymateb i'r adroddiad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ymddiheuro i gleifion, eu teuluoedd a gofalwyr sydd wedi profi gofal o safon isel. Dywedon nhw na ddylai'r achosion o ofal gwael erioed wedi digwydd, a'u bod yn "gwbl annerbyniol".

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd eu bod yn derbyn pob un o argymhellion Adroddiad Andrews, a'u bod eisoes wedi dechrau gweithredu newidiadau ers i bryderon gael eu codi y llynedd.

Yn ogystal â'r newidiadau yma, dywedodd y bwrdd y byddai mwy o sylw yn cael ei roi i faterion sy'n cael eu codi yn yr adroddiad, gan gynnwys meddyginiaeth a defnydd o dawelyddion.

Dywedodd Prif Weithredwr y bwrdd, Paul Roberts, ei fod yn ymddiheuro yn llawn i gleifion a'u teuluoedd, ond ei fod yn credu y gall yr ysbytai wella.

"Roedd hwn yn adroddiad anodd i'w ddarllen. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi methu rhai o'n cleifion a'u teuluoedd, ac rydyn ni'n ymddiheuro yn llawn am y boen mae hynny wedi ei achosi," meddai.

"Rydw i'n credu bod yr adroddiad yma yn gyfle i ni symud ymlaen yn gynt mewn gwella gofal.

"Mae wedi gosod heriau anodd mewn amser byr. Byddwn yn gwneud ein gorau i'w cyrraedd."

Ymateb gwleidyddol

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC, bod y dystiolaeth "ddim yn frawychus" ond yn "arswydus".

Galwodd am sicrhad nad oes sefyllfaoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru, a dywedodd y byddai ei blaid yn gweithio gyda'r llywodraeth i "sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu yn sydyn ac yn y modd priodol".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC, bod gan gleifion yr hawl i ddisgwyl safon sylfaenol o ofal.

"Mae cleifion a'u teuluoedd yn rhoi eu ffydd yn yr ysbyty a staff ac mae ganddyn nhw'r hawl i ddisgwyl safon gofal sy'n cynnwys bwydo, hydradu, gofal dal dŵr ac urddas. Mae'n glir bod cleifion yn Abertawe Bro Morgannwg wedi eu gadael i lawr."

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn Ne Ddwyrain Cymru, Peter Black bod yr adroddiad yn cyfiawnhau'r galwadau am ymchwiliad llawn i'r bwrdd iechyd.

Dywedodd nad oedd yn sicr y byddai'r adroddiad yn ddigon i dawelu meddyliau teuluoedd oedd wedi cwyno, na chwaith bod y bwrdd iechyd "yn bod yn gwbl dryloyw am sut y mae'n delio a'r pryderon".