Y Lludw'n dychwelyd i Gaerdydd

  • 12 Mai 2014
Stadiwm Swalec Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd prawf agoriadol y lludw ei chynnal yn Stadiwm Swalec yn 2009

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi cyhoeddi lleoliadau gemau prawf 2015, ac fe fydd prawf agoriadol cyfres y lludw yn erbyn Awstralia yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Cafodd y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ei chynnal yn Stadiwm Swalec yn 2009 pan lwyddodd Lloegr i gael gêm gyfartal yn erbyn yr ymwelwyr.

Y flwyddyn nesaf fe fydd Lloegr hefyd yn herio Awstralia mewn gêm 20 pelawd yng Nghaerdydd.

Dywedodd prif weithredwr yr ECB, David Collier: "Mae'r haf nesaf yn addo bod yn dymor cyffrous dros ben gydag ymdrech Lloegr i ail gipio'r lludw yn uchafbwynt y flwyddyn chwaraeon."

Straeon perthnasol