Pallial: Dyn a holwyd wedi marw

NCA

Mae dyn gafodd ei holi gan heddlu fel rhan o Ymgyrch Pallial i honiadau o gamdrin rhywiol hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru wedi marw.

Cafwyd hyd i gorff y dyn 62 oed o Barnsley ar reilffordd yn y dref ar Ebrill 12, yn ôl yr Heddlu.

Roedd y dyn hefyd yn cael ei amau o gamdrin yn ysgol breswyl Kesgrave Hall ger Ispwich.

Fe fu farw dridiau wedi iddo gael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth gan Heddlu Suffolk.

Fe ddywedodd yr heddlu fod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wei cael gwybod am y farwolaeth, a bod y mater yn nwylo'r crwner.