Cyfarwyddwr BBC Cymru yn pryderu am ffigyrau gwylio S4C

Pencadlys S4C
Mae S4C wedi dweud mai un ffon fesur yn unig yw ffigyrau gwylio

Mae cyfarwyddwr BBC Cymru Wales wedi dweud ei fod yn pryderu am y gostyngiad o un rhan o chwech yn nifer y bobl sydd yn gwylio S4C yn ystod yr oriau brig ac y gallai'r gynulleidfa grebachu hyd yn oed yn fwy.

Mewn cyfarfod o Gyngor Cynulleidfa Cymru, fe ddywedodd Rhodri Talfan Davies fod gostyngiad o 17% yng nghynulleidfa S4C yn ystod yr oriau brig yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn "bryder go iawn o ran darparu gwerth am arian a gwasanaethu'r gynulleidfa Gymraeg ei hiaith".

Mi ddywedodd y cyfarwyddwr hefyd fod penderfyniad S4C i orffen darlledu rhifyn omnibws o Pobol y Cwm a thorri nôl ar y rhifynnau yn y nos yn mynd i arwain at ostyngiad arall yn y nifer sydd yn gwylio.

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr S4C, Ian Jones fod y sianel mewn trafodaethau parhaus gyda'r BBC am y cwymp yn y gynulleidfa yn ystod yr oriau brig a bod canolbwyntio ar un ffon fesur yn rhoi "darlun anghyflawn" o wasanaeth S4C.

Ers 2013, mae S4C yn cael mwyafrif ei chyllideb gan y BBC (rhyw £76m i S4C yn ystod 2014/15), ond mae S4C yn cadw ei hannibyniaeth olygyddol.

Mae BBC Cymru yn darparu tua 520 o oriau o raglenni i'r sianel y flwyddyn.

Yn waeth na'r 'trend'

Mi gododd Rhodri Talfan Davies ei bryderon mewn cyfarfod gyda'r cyngor cynulleidfa ym mis Mawrth. Mae cofnodion y cyfarfod hwnnw newydd gael eu cyhoeddi. Maen nhw'n dweud bod Mr Davies wedi nodi bod y berthynas rhwng y ddau gorff (BBC ac S4C) yn "well nag erioed".

Ond mi ddywedodd hefyd mai'r prif fater oedd "perfformiad cyffredinol y sianel, gyda ffigyrau'r gynulleidfa yn gwaethygu yn gyflymach na'r trend hanesyddol sydd yn wynebu'r holl ddarlledwyr".

Amseroedd brig S4C yw rhwng 6.30yh a 9.30yh ac maen nhw'n cynnwys rhifynnau o'r opera sebon Pobl y Cwm a rhaglen Newyddion 9, dwy raglen sydd yn cael ei gwneud gan BBC Cymru.

Dywedodd Mr Talfan Davies wrth y cyngor cynulleidfa fod penderfyniad diweddar S4C i leihau'r arian oedd yn cael ei roi er mwyn cynhyrchu Pobl Y Cwm yn un fyddai'n lleihau ffigyrau gwylio'r sianel yn yr oriau brig hyd yn oed yn fwy.

Glyn Davies
Mae annibyniaeth S4C yn bwysig meddai Glyn Davies

Gwaith Cyngor Cynulleidfa Cymru yw craffu ar wasanaethau'r BBC ar ran y gynulleidfa. Mae'r cyngor yn cyfarfod yn gyson i glywed gan reolwyr allbwn y BBC yng Nghymru. Mae'r cyngor yn adrodd yn ôl i Ymddiriedolaeth y BBC, corff llywodraethu'r gorfforaeth.

'Darlun anghyflawn'

Dywedodd prif weithredwr S4C Ian Jones: "Rydym mewn trafodaeth gyson gyda'r BBC ynglŷn â'r cwymp yn y niferoedd o wylwyr yn ystod yr oriau brig, sy'n berthnasol iawn o ystyried bod y BBC yn cynhyrchu tua hanner y rhaglenni sy'n llenwi'r oriau hynny ar S4C.

"'Dw i'n falch iawn bod natur y berthynas rhyngom yn golygu bod modd i ni weithio gyda'n gilydd i wynebu'r her honno. Er, dylid nodi bod ffocysu ar un ffordd o fesur perfformiad yn unig (allan o'r naw mesur perfformiad sy'n cael eu defnyddio gan S4C) yn creu darlun anghyflawn o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig.

"Rydym yn gyson ein barn bod angen ymateb i ofynion y gynulleidfa wrth gynllunio'n cynnwys.

"Yn hyn o beth, mae penderfyniad S4C i beidio â pharhau i ddarlledu omnibws Pobol y Cwm ar brynhawn Sul yn rhyddhau cyllid i'n galluogi i gynllunio amserlen fydd yn boblogaidd gyda'r gynulleidfa.

"Mae S4C yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau bod ein cynnwys yn cwrdd â disgwyliadau pobl Cymru - a'i fod ar gael yn y ffyrdd y mae pobl Cymru'n dymuno gwylio."

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru:

"Mae holl wasanaethau Cymraeg - gan gynnwys rhai'r BBC - wedi wynebu sialensiau penodol o ran y gynulleidfa yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi bod yn agored iawn ynglŷn â hyn.

Dim angen ymyrraeth

"Mae'r cofnodion y cyfeirir atyn nhw heddiw yn adlewyrchu'r drafodaeth a gafwyd fel rhan o arolwg blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru o raglenni BBC Cymru - gan gynnwys y rhaglenni sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer S4C."

"Mae timau rheoli S4C a BBC Cymru yn trafod yn rheolaidd er mwyn mynd i'r afael â'r her. Mae llwyddiant Y Gwyll/Hinterland, ailwampio Newyddion 9, yn ogystal â chynlluniau i lansio S4C ar BBC iPlayer yn hwyrach eleni, i gyd yn dangos y berthynas greadigol gref sy'n bodoli rhwng BBC Cymru a S4C."

Bydd yr AS Ceidwadol Glyn Davies yn cynnal dadl ar S4C a hunaniaeth Cymru yn San Steffan ddydd Mercher. Mae'n dweud fod ymyrraeth Rhodri Talfan Davies ynglŷn â ffigyrau gwylio S4C yn fater o bryder.

"Mae'n bryder i mi fod uwch-reolwr o fewn y BBC yn gwneud sylw ar rywbeth sydd yn benderfyniad rheolaethol yn S4C o'r hyn wela i. Yr hyn oedd yn allweddol i'r cytundeb gafodd ei wneud dros ddwy flynedd yn ôl, o ran ariannu S4C i'r dyfodol, oedd ei annibyniaeth reolaethol a golygyddol.

"Hyd yn oed os nad ydy o yn ymgais i ymyrryd, mae'n rhaid i rywun fod yn ofalus iawn nad ydy hi'n ymddangos fod y BBC yn ymyrryd. Dw i'n credu y gall e achosi nerfusrwydd ymhlith cynulleidfa S4C a'r cyhoedd yng Nghymru sydd yn siarad Cymraeg ac mae hynny yn fater y mae'n rhaid i ni fod yn ofalus yn ei gylch."

Dim ond un set o ffigyrau

Yn ôl Iestyn Garlick, cadeirydd y gymdeithas cynhyrchwyr annibynol TAC, mae newidiadau yn y ffordd mae pobl yn gwylio wedi golygu gostyngiad cyffredinol yn oriau brig sianeli teledu.

"Mae unrhyw ostyngiad mewn ffigyrau gwylio yn bryder i unrhyw un. Ond mae'n rhaid i rywun ystyried pam bod y ffigyrau fel y maen nhw. Mae'n rhaid i ni gofio bod pobl yn gwylio teledu ar bethau sydd ddim yn deledu bellach.

"Maen nhw'n gwylio ar eu iPads, neu eu gliniaduron neu ar yr iPlayers a'r holl ffyrdd eraill. Felly mae ychydig yn anonest i ddweud fod y ffigyrau ar i lawr pan rydych chi mond wedi edrych ar un set o ffigyrau."

Mae ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud mai un o ddyletswyddau Cyngor Cynulleidfa Cymru yw trafod cyfraniad BBC Cymru i ddeunydd rhaglenni S4C.

"Mae'r cyngor wedi nodi yr heriau presennol sydd yn wynebu S4C o ran cynulleidfa ond yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth sydd yn wynebu yr holl ddarlledwyr iaith Gymraeg.

"Mae ymddiriedolwr BBC ar gyfer Cymru, Elan Closs Stephens yn croesawu'r cydweithrediad rhwng y BBC a S4C er mwyn delio gyda'r heriau o wasanaethu siaradwyr Cymraeg ar sawl platfform."

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i sylwadau Mr Talfan Davies trwy feirniadu'r BBC a dweud bod angen darlledwr Cymraeg aml-gyfrwng newydd sy'n "rhydd" o'r BBC.

Meddai llefarydd dros ddarlledu'r gymdeithas, Greg Bevan: "Dyma'r enghraifft ddiweddaraf mewn cyfres o sylwadau sy'n ymddangos fel eu bod yn rhan o batrwm o ymosodiadau sinigaidd gan reolwyr BBC ar S4C a'r iaith Gymraeg.

"Gyda thoriadau i'r grant gan y Llywodraeth i'r sianel, nid yw'n syndod bod y sianel yn wynebu her.

"Mae angen cynyddu'r buddsoddiad mewn darlledu Cymraeg, yn hytrach na pharhau gyda thoriadau pellach, fel bod modd i S4C ac eraill fynd â darlledu Cymraeg i blatfformau arlein newydd."