Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A489

Heddlu

Mae dyn wedi marw a dau arall wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A489 ger Y Drenewydd.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod Suzuki melyn, Ford glas, MG gwyrdd a beic modur Honda du wedi bod mewn gwrthdrawiad rhwng Y Drenewydd a Ceri am tua 11:50yb ddydd Sul.

Bu farw gyrrwr y beic modur o'i anafiadau.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae'r Heddlu yn apelio am dystion, neu unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd ar y pryd, i gysylltu â nhw ar 101