Arestio dyn o Bort Talbot am 'negeseuon sarhaus'

  • 4 Mai 2014
Ann Maguire
Cafodd Ann Maguire ei thrywanu i farwolaeth mewn ysgol yn Leeds ddydd Llun

Mae dyn 42 oed o Bort Talbot yn ne Cymru wedi ei arestio yn ymwneud â honiadau o yrru negeseuon sarhaus yn dilyn marwolaeth athrawes mewn ysgol yn Leeds.

Mae dyn 21 oed o Leeds wedi ei gyhuddo o'r un drosedd.

Cafodd Ann Maguire, 61, ei thrywanu i farwolaeth yng Ngholeg Corpus Christi ddydd Llun.

Mae bachgen 15 oed wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen llys ym mis Tachwedd.