'American Interior': John Evans y 'Cymro pybyr a delfrydwr'

  • 9 Mai 2014
'American Interior'
Mae 'American Interior' yn olrhain hanes perthynas Gruff Rhys, John Evans, aeth i America i chwilio am siaradwyr Cymraeg yn 1792

Does dim amheuaeth fod cymeriadau mwyaf lliwgar hanes Cymru i'w canfod rhwng y blynyddoedd 1550-1800. Yn wir nid gormodiaeth fyddai cyfeirio at ambell un fel 'cnaf.'

Mae gwyddoniadur enwog William Donaldson, 'Rogues , Villains and Eccenctrics through the ages', yn cofnodi cymaint ag 11 o Gymry, a'r mwyafrif o'r rheiny yn dod o'r 20fed ganrif.

Mae'r llyfr yn cyfeirio at ddynion fel Lloyd George, Augustus John yr arlunydd, Howard Marks y deliwr cyffuriau, a Vinnie Jones y peldroediwr. Ond i'r sawl sy'n gyfarwydd â hanes Cymru, mae'n sicr y gellir rhestru dwsinau o rai eraill!

Un gŵr y rhoddir sylw arbennig iddo yw John Evans, Waunfawr. Yn sgil lansio ffilm newydd amdano, 'American Interior' gan Gruff Rhys, y mae'n amserol crynhoi'r stori anhygoel hon.

Madog ab Owain Gwynedd

Fe'i ganed yn Hafod Oleu, Waunfawr, Gwynedd yn 1770 a hynny yn ystod anterth y Diwygiad Methodistaidd ac, fel ei dad, daeth yntau yn ei dro dan ddylanwad y pregethwyr Methodistaidd hyn.

Yn ystod ei ieuenctid cafodd ei hudo gan y stori ryfeddol am Madog ab Owain Gwynedd yn hwylio a darganfod America yn 1170. Dywedid fod yr arloeswyr cynnar hyn o Gymru wedi ymsefydlu ymhlith Indiaid cyrion uchaf afon Missouri.

Penderfynodd John Evans ddilyn hanes y trefedigaethwyr arloesol cynnar hyn. Roedd Iolo Morgannwg - un o Gymry amlycaf y 18fed ganrif - wedi cytuno i ymuno ag ef gan ei fod yntau hefyd yn rhannu'r gred ym modolaeth llwyth o Indiaid Cymreig.

Oherwydd afiechyd bu raid i Iolo dynnu allan o'r fenter. Ond bwriodd John Evans ymlaen gyda'r freuddwyd o ddarganfod yr Indiaid Cymreig a hwyliodd i America, gan gyrraedd Baltimore yn ystod Hydref 1792.

Dilynodd afon Ohio cyn troi am Ddyffryn y Missouri a chyrraedd St Louis. Yno cafodd ei ddal mewn ffrwgwd a therfysg ac fe'i carcharwyd gan Don Trudeau, y llywodraethwr Sbaenaidd, am rai misoedd.

Newid trywydd

Ond erbyn 1795 roedd tro ar fyd wedi digwydd yn ei hanes ac fe'i penodwyd yn arweinydd ymgyrch y Missouri Company i chwilio a chanfod tiroedd newydd o gwmpas afon Missouri.

Dyna fu ei hanes o Awst 1795 hyd Hydref 1796 - yn anturio o un lle i'r llall, yn treulio amser gydag Indiaid y Mahai, yn gwrthdaro gyda'r sefydliad Ffrengig ac yn brwydro yn erbyn llwyth Indiaid y Sioux.

Cyrhaeddodd anterth ei freuddwyd a'i obeithion o ganfod yr Indiaid Cymreig pan ddaeth ar draws y Mandaniaid yng Ngogledd Dakota.

Treuliodd chwe mis yn byw ymysg y Mandaniaid a daeth yn arwr yn eu plith. Ond bu raid iddo gydnabod nad oedd olion o'r Gymraeg i'w canfod yn unman.

John Evans oedd y dyn gwyn cyntaf i wneud map cyflawn o afon Missouri a chafodd hyn ei gydnabod gan yr Arlywydd Thomas Jefferson. Teithiodd 2,000 o filltiroedd yn chwilota ac anturio ond roedd yn wantan ei iechyd o'i blentyndod ac ar ôl gwaeledd hir bu farw mewn amgylchiadau tlawd ac unig yn New Orleans yn 1799, ag yntau ond yn 29 mlwydd oed. Mae ambell groniclwr wedi'i ddarlunio fel cnaf twyllodrus oedd am gamliwio'r gwir am Indiaid Cymreig - ond mewn gwirionedd Cymro pybyr, breuddwydiwr a delfrydwr oedd John Evans.

'Cnafon Cymreig'

O blith y 'cnafon Cymreig' nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys yn 'Rogues, Villains and Eccentrics', yr un y byddwn i'n ei gynnwys fyddai Tomos Prys, Plas Iolyn, Pentrefoelas - mab yr anenwog Doctor Coch!

Yn ddios Tomos Prys yw un o ddynion mwyaf lliwgar cyfnod Elizabeth I, yn fardd, anturiaethwr a môr-leidr.

Ysgrifennodd gywyddau crefftus yn croniclo'i hanesion morwrol yn ysbeilio llongau Sbaen ac yn ysmygu tobacco ar strydoedd Llundain cyn bod tobacco wedi cyrraedd y ddinas!

Cyfeiriodd at Lundain fel "lle mae einioes llym ennyd a chnawdri a bawdri byd".

Ac ar ôl treulio oes yn ysbeilio, dywed mewn cynghanedd Saesneg mai ei wir ddymuniad oedd anghofio am ei anturiaethau morwrol 'Before I will pill or part, buy a ship I'll be a shepart'.

Mae llawer mwy o gymeriadau lliwgar fel hyn nad ydyn nhw wedi cael y sylw dyledus ac efallai'n wir ei bod hi'n amser i'r cyfryngau rhyngwladol wybod mwy amdanyn nhw.