Cyfle i weld llong uchel

  • 27 Ebrill 2014
Stavros S Niarchos
Cafodd y llong ei dylunio'n benodol er mwyn hyfforddi morwyr ifanc

Mae cyfle i'r cyhoedd gael gweld un o'r llongau mwyaf o'i math wrth iddi ymweld â Chaerdydd ddydd Sul.

Llong Uchel yw'r Stavros S Niarchos, sydd yn 200 troedfedd o uchder ac sydd â chyfanswm o 18 o hwyliau a phum mast.

Ymddiriedolaeth Ieuenctid y Llongau Uchel sy'n berchen ar y llong ac maen nhw'n ei defnyddio ar gyfer datblygu sgiliau personol a morol pobl ifanc rhwng 12 a 25, y mwyafrif ohonynt o gefndiroedd difreintiedig.

Bydd i'w gweld yng Nghei Britannia rhwng hanner dydd a 5 y prynhawn, lle bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu am hanes y llong a'r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu ar ei deciau.

Y Stavros

Brig yw'r Stavros S Niarchos, sy'n golygu ei bod hi'n llong ag iddi ddau hwylbren, gyda hwyliau sgwâr ar y ddau fast.

Cafodd ei hadeiladu yn iard gychod Appledore yn Devon yn niwedd y nawdegau, a'i chwblhau ym mis Ionawr 2000.

Fe aeth ar ei mordaith gyntaf o gwmpas Penrhyn Cernyw fis yn ddiweddarach gyda chriw o oddeutu 70 o hwylwyr.