Llywodraeth yn 'defnyddio arian Ewropeaidd yn well'

Canolfan Cywain
Mae'r adroddiad yn dweud bod y llywodraeth wedi dysgu gwersi o gynlluniau fel Canolfan Cywain, oedd wedi derbyn arian o Ewrop ond sydd bellach wedi cau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dysgu gwersi a nawr yn gwneud gwaith da wrth reoli'r rhaglen enfawr o gymorth economaidd i Gymru gan yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.

Roedd archwilwyr wedi edrych ar y ffordd y cafodd cyllid Ewropeaidd ei wario rhwng 2007-2013, a daethon nhw i'r canlyniad bod cynlluniau yn cael eu rheoli yn dda, er gwaethaf rhai problemau fel gormod o fiwrocratiaeth a thargedau oedd yn rhy hawdd eu cyrraedd.

Roedd Cymru wedi derbyn £1.87bn gan yr UE i hybu ei allbwn economaidd isel, gyda'r mwyafrif helaeth yn cael ei wario yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Mae arian wedi ei wario ar brosiectau fel adeiladu Pont Calzaghe yn Nhrecelyn, ail-ddatblygu Coedwig Cwmcarn a chynlluniau i gael swyddi i bobl ddi-waith. Ond mae rhai cynlluniau wedi eu beirniadu, gan gynnwys canolfan treftadaeth Cywain yn y Bala, sydd wedi cau erbyn hyn.

'Gwersi wedi eu dysgu'

Mae allbwn economaidd Cymru yn dal i fod yn llai na 75% o gyfartaledd gwledydd yr UE, ac felly mae gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi derbyn rhagor o gyllid ar gyfer 2014-2020.

Dan reolau Ewropeaidd, mae'n rhaid i'r sectorau cyhoeddus neu breifat roi'r un faint o arian sy'n cael ei roi gan yr UE, ac mae'n rhaid ei wario ar gynlluniau i ddatblygu'r economi yn hytrach nag isadeiledd neu wasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd adroddiad y Swyddfa Archwilio bod gwersi wedi eu dysgu o'r arian gafodd ei roi yn 2000-2006, oedd wedi derbyn beirniadaeth am fod heb ffocws ac o geisio sefydlu gormod o gynlluniau.

Ond, awgrym yr adroddiad yw ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud os oedd arian 2007-2013 wedi rhoi hwb i economi Cymru.

Pont Calzaghe
Pont Calzaghe yn Nhrecelyn oedd un o'r cynlluniau gafodd arian gan yr Undeb Ewropeaidd

"Dydy hi ddim cweit yn beiriant lle gallech chi droi handlen ac mae rhywbeth yn dod allan o'r pen arall," meddai awdur yr adroddiad, Ben Robertson.

"Mae gymaint o ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad economaidd, a dydy Cronfeydd Strwythurol ond yn un ohonynt.

"Mae'n £2bn dros saith mlynedd, sy'n lot o arian ond mae'n rhaid edrych ar faint economi gyfan Cymru a'r holl ffactorau sy'n effeithio perfformiad economaidd.

"Ar eu pen eu hunain, ni fydd Cronfeydd Strwythurol yn gallu rhoi'r gyfradd o dwf economaidd yr ydyn ni'n edrych amdanynt."

'Systemau gwell'

Yn ôl Mr Robertson mae gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), sy'n rheoli gwariant arian yr UE yng Nghymru, systemau gwell i fonitro os yw cynlluniau unigol yn llwyddiannus.

Ychwanegodd: "Mae WEFO wedi gwneud newidiadau mawr i brosesau ar gyfer rhaglen 2007-2013, drwy geisio lliniaru'r strwythurau a chwblhau'r rhaglenni mewn ffordd fwy strategol, a drwy lai o gynlluniau, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan.

"Mae'r rhaglenni ar y llwybr cywir i gyrraedd eu prif dargedau - bydd rhai yn cael eu pasio o bell ffordd - ac mae'r strwythurau rheolaeth wedi gwella."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cymru mewn sefyllfa well nawr o ganlyniad i'r £2bn o gyllid UE sydd wedi cael eu rhoi i gynlluniau ers 2007 ac rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod y buddion sylweddol sydd wedi eu cyflawni.

"Mae buddsoddiadau o'r fath eisoes wedi cefnogi 173,000 o bobl i ennill cymwysterau, mae 56,300 o bobl wedi cael cefnogaeth i gael gwaith ac mae dros 39,800 wedi cael cefnogaeth i fynd i addysg bellach. Yn ogystal, mae cynlluniau wedi helpu i greu 8,200 o fentrau a dros 24,800 (gros) o swyddi.

"Mae nifer o'r argymhellion gafodd eu gwneud yn yr adroddiad eisoes wedi eu cyflawni a bydden nhw'n parhau i gael eu hystyried yn ystod y paratoadau ar gyfer rhaglen gyllid 2014-2020."

Dywedodd Darren Millar, AC y Ceidwadwyr sy'n cadeirio Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad: "Mae cyllid Ewropeaidd yn destun rheolau caeth ac mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'r problemau sy'n gallu codi pan mae pethau'n mynd o'i le gyda chynlluniau unigol, fel y digwyddodd yn ddiweddar yn achos y Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA).

"Felly mae angen i WEFO barhau i gael gafael cryf ar reolaeth wrth geisio lliniaru prosesau i ddeiliaid diddordeb gymaint â phosib."