Ofnau bod cyn-chwaraewr Cymru, Leighton James wedi cael strôc

Leighton James,
Image caption Chwaraeodd Leighton James 54 o weithiau dros Gymru.

Mae cyn-chwaraewr Cymru ac Abertawe, Leighton James, wedi cael triniaeth yn yr ysbyty wedi iddo ddioddef beth sy'n cael ei amau yn strôc fechan.

Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod y gŵr 61 oed wedi bod yn sal ac yn yr ysbyty.

Mae Mr James yn ddarlledwr cyson gyda BBC Cymru.

Yn ystod ei yrfa yn y byd pêl-droed, bu'n chwarae dros dimau Burnley, Derby, QPR, Sunderland, Bury a Chasnewydd.

Chwaraeodd 54 o weithiau dros Gymru, gan sgorio 10 gôl.

Fe ddaeth ei yrfa fel chwaraewr i ben yn 1989 yn Burnley.

Wedi hynny, aeth ymlaen i weithio fel rheolwr a bu'n rheoli Llanelli, Aberaman a Hwlffordd, a'r clwb adnabyddus, Accrington Stanley, o 1997 - 1998.