Enwi gyrrwr beic modur fu farw yng Nghastell-nedd

Gareth Davies Image copyright Heddlu rhoi i'r BBC
Image caption Roedd Gareth Davies yn 27 oed

Mae dyn wnaeth farw yn dilyn damwain ym mhentref Llangatwg yng Nghastell-nedd wedi cael ei enwi. Roedd Gareth Davies yn 27 oed ac yn weithiwr dur o ardal Aberdulais.

Cafodd yr heddlu ei galw yn ystod oriau man bore Gwener. Mi oedd Mr Davies oedd yn gyrru beic modur wedi taro yn erbyn car oedd wedi parcio.

Mae ei deulu wedi dweud "na fydd neb yn medru cymryd ei le".

"Roedd yn fab ffyddlon i Andrew a Rhian ac yn frawd arbennig i Lisa a Stephen. Fydd na neb yn medru cymryd ei le ac mi fydd ei deulu cyfan a'r holl ffrindiau oedd ganddo yn gweld ei eisiau."

Mae'r heddlu am siarad ag unrhywun welodd neu glywodd y gwrthdrawiad.

Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol