Dreigiau 10-20 Gweilch

  • 20 Ebrill 2014
Richard Fussell of Ospreys is denied a try by the TMO review

Y Gweilch aeth a hi mewn gêm ddi-ddrwg ddi-dda yn erbyn y Dreigiau yn Stadiwm y Mileniwm.

Er iddyn nhw reoli mwyafrif yr 80 munud mi gollon nhw sawl cyfle.

Er i Ryan Jones gael cerdyn melyn am ladd y bêl yn ardal y dacl wnaeth y Dreigiau ddim llwyddo i gymryd mantais o'r sefyllfa a di-sgor oedd hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ond yn yr ail hanner mi sgoriwyd tri deg o bwyntiau a thri chais.

Daeth y cyntaf i'r Dreigiau wedi symudiad hyfryd Hallam Amos. Richie Rees groesodd ac wedi trosiad Kris Burton nhw oedd ar y blaen o 7-0.

O'r diwedd llwyddodd y Gweilch i ennill pwyntiau wedi cic gosb lwyddiannus gan Dan Biggar. Cafodd Nic Cudd ei anfon i'r gell gosb am dynnu crys chwaraewr arall.

Gydag ugain munud i fynd daeth cais i'r Gweilch gan Tom Habberfield. Roedd y Gweilch rwan yn pwyso yn galed a'r Dreigiau yn ymddangos yn fwy, fwy blinedig.

Ar ôl i'r ddwy ochr gyfnewid cic gosb fe lwyddodd y Gweilch i gael eu trwynau ar y blaen. Yn y munudau olaf fe aethon nhw ymhellach ar y blaen gyda chais cosb ar ôl yw blaenwyr chwalu wyth y Dreigiau.