Gwrthdrawiad: Dyn mewn cyflwr difrifol

  • 19 Ebrill 2014

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar Ynys Môn yn ystod oriau man bore Gwener.

Fe gafodd dyn 21 oed ei daro gan gar pan oedd o'n cerdded adref o dafarn yr Oyster Catcher yn Rhosneigr.

Mae'r dyn wedi ei gludo i uned arbenigol yn yr ysbyty yn Stoke, ac yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Mae heddlu wedi arestio dyn lleol yn rhan o'r ymchwiliad - mae o'n parhau i fod yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Caernarfon.

Gall unrhywun â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu'r Gogledd ar 101.