Gwrthdrawiad marwol: Ffordd ynghau

Mae'r A487 rhwng Felindre Farchog ac Aberteifi ynghau wedi gwrthdrawiad marwol rhwng lori a beic modur b'nawn Gwener.

Fe gafodd heddlu eu galw yno tua 1.40yh.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yng nghylchfannau Eglwyswrw ac Aberteifi.