Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Pabell yr Eisteddfod
Trafod dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol mae Glyn Adda yn ei flog

Un da yw Glyn Adda am ddatgan ei farn, ac os darllenwch chi ei flog, fe welwch fod ganddo safbwynt digon pendant ar nifer o bynciau; yn eu plith, dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r tasglu o ddwsin a sefydlwyd gan y Llywodraeth i edrych ar ddyfodol yr ŵyl.

Dyma, meddai yn ei flogiad diweddara', nawfed ysgrif yr hen Glyn Adda ar fater y Dwsin Doeth. Pam y fath obsesiwn? Am ei fod yn fater pwysig.

Ac ymhlith pethau eraill dyw'r hen Glyn ddim gweld unrhyw synnwyr mewn penodi Cyfarwyddwr Artistig i'r droi'r Eisteddfod yn Ŵyl ddeinamig. Fe ŵyr pob eisteddfodwr, meddai, fod yr Eisteddfod weithiau'n ddeinamig ac weithiau'n ddigalon.

Cafwyd eisteddfodau a gododd yr ysbryd, ac eisteddfodau a'n bwriodd i bwll o anobaith.

Fel'na mae erioed a thebyg mai felly y bydd eto, yn dibynnu ar ffactorau damweiniol ac anniffiniol yn aml, ffactorau na all Cyfarwyddwr Artistig na neb arall wneud dim yn eu cylch.

Ymchwilio i enwau Americanwyr enwog

Lyn Ebenezer
Blog Lyn Ebenezer yn ystyried etifeddiaeth y Cymry yn America

Gan gyfaddef nad oedd ganddo ddim byd gwell i'w wneud ar y pryd, mae Lyn Ebenezer yn Y Cymro wedi bod yn ymchwilio i enwau Americanwyr enwog oedd neu sydd o dras Gymreig, a tharo ar nodyn diddorol am y rheswm dros gynifer y cyfenwau Cymreig a roddwyd ar gaethweision du.

Y dybiaeth oedd iddyn nhw gael eu henwi ar ôl eu meistri gwyn, llawer o Gymry yn eu plith.

Ond, medd un ffynhonnell ddienw, yn nhaleithiau'r de roedd nifer o bregethwyr o Gymru, ac fe enwyd llawer o gaethweision a ryddhawyd ar eu hôl fel arwydd o barch.

Fersiwn Cymraeg o Newsnight?

Newsnight
Cafodd Newsnight Scotland ei sefydlu yn 1999

Swyddog Polisi Cymru yr NUT, Owen Hathaway sy'n blogio'r wythnos hon o blaid sefydlu fersiwn Cymraeg o'r rhaglen nosweithiol Newsnight.

Fel rhywun sy'n gweithio yn y sector addysg, meddai, efallai byddai disgwyl taw fi fyddai'r person diwethaf i fod yn cefnogi'r ymgyrch.

O'r holl bortffolios polisi yng Nghymru, mae addysg yn cael ei siâr o sylw gydag eitemau newyddion nosweithiol. Ac o ystyried bod y ffocws yn aml ar benawdau negyddol, ydyn ni wir angen mwy?

Wel, yn ôl y blogiwr, trafodaeth wybodus sydd ei hangen. Yng Nghymru mae gyda ni newyddiadurwyr gwych sydd â dealltwriaeth fanwl o faterion addysg sy'n eu galluogi nhw i adrodd straeon diddorol ac atyniadol am ein system addysg - gan gynnwys tynnu sylw at y problemau a dathlu'r llwyddiannau.

Tiwtora'n mynd yn obsesiwn!

Menyw a'i llaw ar ei thalcen
'Pedwar pen'? Bethan Gwanas a'i myfyrwyr yn dysgu enwau rhannau o'r corff

Ac yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, a hithau wedi mentro ers rhai misoedd i faes dysgu Cymraeg i Oedolion, mae Bethan Gwanas yn yr Herald yn rhannu rhai o'i phrofiadau.

Er nad yw hi fawr gwell arni'n ariannol, mae 'na fwy i fywyd na phres, meddai, ac mae wrth ei bodd yn dod i 'nabod pobl newydd, sydd yn aml yn ddiddorol tu hwnt.

A hithau'n dysgu nifer o ddosbarthiadau bob wythnos, mae'n beryg bod y tiwtora'n mynd yn ychydig o obsesiwn - 'dyw Bethan ddim yn gallu gwrando ar ganeuon Cymraeg bellach heb feddwl "W, fyddai hon yn handi ar gyfer dysgu geirfa newydd" ond yn anffodus, mae'r ynganu'n aml yn rhy niwlog neu'r iaith yn rhy gymhleth, ac mae hi'n gwneud cais ar i'r bandiau Cymraeg feddwl am hynny wrth 'sgwennu - ydi, mae Bethan yn athrawes o'i chorun i'w sawdl.

Ac mae 'na hwyl i'w gael - wrth ddysgu rhannau o'r corff i un dosbarth, wedi dysgu 'pen' dyma un yn dweud 'Aha! So this must be pedwar pen!' gan bwyntio at ei thalcen...

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.